“Adversity enabled the creation of stronger student culture”

Yn ddiweddar, gwnaeth Dr Jay Rees gwblhau ei PhD mewn Hanes ym Mhrifysgol Abertawe. Yn hanesydd sy’n arbenigo mewn addysg uwch, bywyd pob dydd, rhywedd a hanes ar ôl y rhyfel, mae ei diddordebau wedi gwneud iddi ysgrifennu am themâu cymdeithasol mawr yr  20fed ganrif. 

Gyda thesis Jay yn canolbwyntio ar brofiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe drwy gydol ein canrif gyntaf, gwnaethom ni gwrdd â hi er mwyn trafod ei hymchwil, ac er mwyn datgelu’r gwersi y mae ein myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol yn gallu eu dysgu (a’u hosgoi!) gan eu rhagflaenyddion. 

Fy ymchwil

Gwnes i gwblhau fy ngradd Meistr yn 2015 a daeth y cyfle i ymchwilio i destun ynghylch y Brifysgol fel rhan o’r Canmlwyddiant.

Mae fy ymchwil yn archwilio Prifysgol Abertawe o’i chychwyn ym 1920 tan 1990, ac mae’n seiliedig yn llwyr ar ffynonellau gan fyfyrwyr, gan gynnwys 900 copi o’r papur newydd i fyfyrwyr. Trwy ddefnyddio deunyddiau sylfaenol, mae fy ymchwil yn dangos profiad myfyrwyr o fyw, gan roi hwn wrth wraidd y thesis.

Mae’n archwilio anghenion a dyheadau esblygol myfyrwyr wrth i’r Brifysgol symud ymlaen drwy gydol yr 20fed ganrif, ac mae’n dadansoddi’r materion a oedd yn effeithio arnynt yn uniongyrchol ar lefel yr unigolyn.

Photo of Jay Rees examining papers from the Richard Burton Archives.

Microcosm perffaith o gymdeithas ehangach

Agorodd Prifysgol Abertawe ar adeg pan oedd nifer cynyddol o fyfyrwyr yn mynd i fyd addysg uwch, gan ddod â mwy o amrywiaeth a phrofiadau amlochrog o fywyd myfyrwyr.

Fel sefydliad Cymreig, mae Prifysgol Abertawe yn ychwanegu at yr hanesyddiaeth ehangach gan fod llawer o haneswyr yn tueddu i ysgrifennu am fyfyrwyr o brifysgolion o fri. Mae’n bwysig i Brifysgol Abertawe  fod yn rhan o’r drafodaeth gan ei bod yn ficrocosm perffaith o’r gymdeithas ehangach a themâu cyffredin yr 20fed ganrif - fel ffiniau rhwng y rhyweddau, diwylliant ieuenctid, rhyfel ac actifiaeth.

Jay Rees gyda Carey Mulligan, yr astudiodd ei Dad-cu ym Mhrifysgol Abertawe, y tu allan i Abaty Singleton.

Jay Rees gyda Carey Mulligan, yr astudiodd ei Dad-cu ym Mhrifysgol Abertawe, y tu allan i Abaty Singleton.

Ymddangosiad cynnar diwylliant myfyrwyr

O’r cychwyn, daeth myfyrwyr yn rhan o ‘ddiwylliant prifysgol’ trwy weithgareddau allgyrsiol. Agorodd y cymdeithasau cyntaf ym 1920, ac er eu bod yn seiliedig ar adrannau, fel y Gymdeithas Feteleg a’r Gymdeithas Mathemateg Bur, drwy eu sefydlu nhw a sefydlu pwyllgor cynrychioli myfyrwyr, gwnaeth diwylliant prifysgol ffynnu mor gynnar â’r 1920au.

Adnabod ffiniau rhwng y rhyweddau

Er bod menywod yn mynychu’r Brifysgol ym 1920, roeddent yn dal i fod mewn amgylchedd a oedd yn cynnwys dynion yn bennaf ac roeddent yn mynychu lleoedd gwahanol i’w cyd-fyfyrwyr gwrywaidd, a oedd yn nodweddiadol o ddiwylliant ehangach y 1920au.

Lleolid ystafell gyffredin y menywod yn atig yr Abaty, gyda’u digwyddiad cymdeithasol cyntaf yn cynnwys yfed te a chanu offerynnau cerddorol ynghanol y décor blodeuol tlws. Fodd bynnag, roedd ystafell gyffredin y dynion, gyda’i dodrefn cadarn, yn nes at fynedfa’r adeilad, gyda phartïon croeso’n troi’n dra bywiog yn gyflym.

Ym 1923, daeth yn orfodol i fenywod fyw yn Neuadd Beck, a oedd 15 munud  o’r campws. Tra bod y Ffreutur yn ardal gymysg, roedd gofyn i fenywod ddychwelyd i Neuadd Beck er mwyn ciniawa, ddwywaith y dydd, a oedd yn ddull atal y ddau ryw rhag cymysgu.

Yn ystod y RAG, byddai dynion yn gwisgo mewn ‘ffrogiau llachar’ tra byddai menywod yn cerdded ochr yn ochr â’r ceir sioe gan wisgo gwisg academaidd ac yn casglu ar gyfer elusennau gan yr ystyrid bod y cyffro yn llawer rhy lygredig i bersonoliaeth menywod.

Gwnaeth bywyd myfyrwyr ffynnu yn ystod adegau adfydus

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, efallai y byddech yn cymryd y daeth bywyd myfyrwyr i ben oherwydd y tywyllu, yr ymosodiadau o’r awyr a’r bomio. Fodd bynnag, nid dyma’r achos ac mewn rhai ardaloedd roedd y Brifysgol yn ffynnu a chrëwyd traddodiadau newydd a diwylliant myfyrwyr cryfach.

Ym 1939, symudodd myfyrwyr Coleg Prifysgol Llundain i Abertawe, gan ychwanegu 140 o staff a myfyrwyr i garfan Abertawe sef 303 o fyfyrwyr. Daeth traddodiadau newydd gyda nhw, fel yr Wythnos Ymsefydlu, pan roedd myfyrwyr yn cyfranogi mewn digwyddiadau chwaraeon, dramâu a dawns, gan roi hwb i fywyd myfyrwyr ar adeg yr oedd dan brawf.

Gwarchodlu Cartref Coleg y Brifysgol Abertawe tua 1942 Diolch i Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe

Gwarchodlu Cartref Coleg y Brifysgol Abertawe tua 1942 Diolch i Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe

Hefyd, rhoddodd hyn gyfle i wneud newidiadau parhaol i ddeinameg y myfyrwyr. Etholwyd Llywydd Benywaidd Cyntaf Undeb y Myfyrwyr, Dorothy Jones, ym 1945, oherwydd yn bennaf symudwyd gweithgareddau i Neuadd Beck, lleoliad benywaidd ar y cyfan. Roedd un o’r chwe thŷ yn wag, felly cytunodd y myfyrwyr â’r warden y byddai’n cael ei hawlio’n adeilad i Undeb y Myfyrwyr.

Roedd ymdeimlad go-iawn o berygl ar yr adeg hon oherwydd bod Abertawe’n cael ei bomio’n drwm. Collodd 48 o fyfyrwyr presennol neu gyn-fyfyrwyr eu bywydau wrth wasanaethu yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac mae gan fy thesis atodiad manwl ynghylch y myfyrwyr hynny i gyd.

Hen elyniaeth

Myfyrwyr mewn gwisg ffansi ar gyfer RAG, 1922. Diolch i Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe (UNI/SU/PC/5/5)

Myfyrwyr mewn gwisg ffansi ar gyfer RAG, 1922. Diolch i Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe (UNI/SU/PC/5/5)

Yn y 1920au a’r 1930au, roedd RAG yn achos balchder dinesig. Serch hynny, er gwaethaf ei roddion elusennol, erbyn y 1950au nid oedd croeso iddo yn y gymuned oherwydd pryderon cynyddol ynghylch diwylliant ieuenctid.

Ym 1954, gwnaeth yr elyniaeth rydym ni wedi dod i’w hadnabod a’i charu rhwng Abertawe a Chaerdydd newid y ffordd roedd y gymuned yn meddwl am y RAG. Gwnaeth Cymdeithas Beirianneg Prifysgol Abertawe soser hedegog o ffoil tun fel rhan o’r orymdaith, a gwnaethant wisgo fel pe tasent yn mynd i’r gofod. Gwnaeth y myfyrwyr o Gaerdydd ddwyn y soser gan fynd â hi’n ôl i Gaerdydd, mynnu pridwerth cyn ei dychwelyd ac achosi cyfres o weithredoedd gan y naill ochr a’r llall i dalu’r pwyth yn ôl.  O 1956 ymlaen, gwnaeth y Brifysgol reoli’r digwyddiad ac roedd yr Heddlu’n bresennol.

Dysgu gan gyn-fyfyrwyr

Wrth inni ddechrau ar ein canrif nesaf, rydym ni’n cofio’r gwersi gwerthfawr rydym ni wedi eu dysgu gan ein cyn-fyfyrwyr trwy eu profiadau. Gwersi am wydnwch, penderfyniad a’r gallu i addasu a chadw ymdeimlad o hunaniaeth myfyrwyr a chymuned yn ystod adegau adfydus.

Mae’r gwydnwch hwn yn arbennig o berthnasol o ran ein hamgylchiadau presennol. Rydym ni’n dechrau ar gyfnod pan fydd bywyd myfyrwyr yn edrych yn dra gwahanol ac rydym ni’n cwestiynu’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar gymuned y myfyrwyr.

Drwy gydol ein hanes, mae myfyrwyr wedi gwthio’n barhaus am ragor o ymdeimlad o gymuned. Pe tasent heb  wneud hyn, ni fyddai gennym Undeb y Myfyrwyr a’r gynrychiolaeth sydd gennym bellach.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ar yr adeg y byddem ni wedi bod yn disgwyl i ddiwylliant y myfyrwyr ddiflannu, cafodd hwb ac roedd ymdeimlad go-iawn o berthyn i Brifysgol Abertawe. Efallai byddwn ni’n gweld bywyd myfyrwyr yn ffynnu eto yn yr adegau newydd hyn, er mewn ffordd wahanol, gyda hunaniaeth myfyrwyr yn dod yn gryfach.

Gwnaeth Abertawe fy helpu i wthio fy hunan

Mae Prifysgol Abertawe mewn lleoliad prydferth ar lan y môr, gan gynnig popeth y mae arnoch ei angen gan amgylchedd sy’n cynnwys dinas a phrifysgol, a’r fath o le byddech chi’n dymuno mynd ar eich gwyliau hefyd. Astudiais fy ngradd israddedig a’m gradd Meistr yma ac ni allwn i ddychmygu gwneud fy PhD yn rhywle arall.

Er eich bod yn ymchwilio i’ch pwnc eich hun, rydych chi gyda phobl eraill sydd yn yr un sefyllfa. Mae hyn yn eich galluogi i wneud cysylltiadau y tu allan i’ch maes ymchwil, gan ehangu’ch gorwelion a’ch safbwyntiau.

Jay and Assistant Archivist Emily Hewitt

Mae gan yr Adran Hanes arbenigedd academaidd bendigedig ac mae’n darparu amgylchedd mor gefnogol, roeddwn i’n teimlo y gallwn i fynd ymhellach gyda’m diddordeb mewn Hanes; roeddwn i’n teimlo drwy’r amser y gallwn i wthio fy hunan, a’m hymchwil, ymhellach. Fel hanesydd, ni allaf bwysleisio ddigon bod Archifau Richard Burton yn gyfleuster hynod fendigedig a pha mor gymwynasgar y mae’r archifwyr. Mae’n drysor cudd o ran gwybodaeth.

Fel myfyriwr PhD, cewch eich annog i fynychu cynadleddau a chyflwyno papurau, sy’n gallu bod yn hynod anodd. Fodd bynnag, mae Abertawe’n rhoi’r cyfle ichi ddatblygu’r sgiliau hyn trwy seminarau adrannol a chynadleddau mewnol, sydd wedi bod yn gefn i mi wrth feithrin yr hyder i gyflwyno papurau gerbron y gynhadledd Hanes Cymdeithasol yn Llundain a Chynhadledd Pen-blwydd yn 50 oed Cymdeithas Hanes Addysg yng Nghaer-wynt.

Beth sy’n dod nesaf?

Ar hyn o bryd, rwyf yn rhannu fy thesis yn ddarnau ar gyfer cyfnodolion ac yn ymgeisio am gyllid ar gyfer ymchwil er mwyn dilyn gyrfa yn y byd academaidd.

Fy nod pennaf yw cynhyrchu monograff sy’n ystyried profiadau menywod o fywyd myfyrwyr ledled Prifysgol Cymru, gan archwilio sut roeddent yn ymdopi â ffiniau gwahanol rhwng y rhyweddau ar adeg pan gymerid yn ganiataol bod ganddynt gyfle cyfartal. Byddaf yn cyflwyno crynodeb i gyhoeddwr yn fuan iawn.

 Dysgwch fwy am ymchwil Dr Jay Rees trwy ddarllen ei thraethawd y Canmlwyddiant Making Beds with Envelope Ends: Beck Hall and Women's Experiences of Student Life at Swansea University, 1920-1939 sy’n edrych yn fanwl ar brofiadau bywyd myfyrwyr benywaidd yn y brifysgol yn ystod ei blynyddoedd cynnar.