Black and white photo of Olek Zienkiewicz

Efallai mai’r Athro Olgierd Cecil Zienkiewicz (1921-2009), a elwir yn ‘Olek’, yw un o academyddion mwyaf adnabyddus Prifysgol Abertawe. Roedd yn Athro Peirianneg Sifil rhwng 1961 a 1987.

Cydnabyddir Zienkiewicz yn rhyngwladol fel un o brif ddatblygwyr Dull yr Elfen Feidraidd, techneg gyfrifiadurol sydd wedi gweddnewid gweithdrefnau dylunio a dadansoddi ym meysydd peirianneg sifil, fecanyddol, awyrofodol a mwy ers y 1960au.  

Ychydig ar ôl iddo gyrraedd Abertawe ym 1961, derbyniodd fyfyriwr PhD ifanc o Tsieina, Y. K. Cheung, a fyddai'n gweithio dan arweiniad yr Athro Zienkiewicz ar yr ymchwil gyntaf i'r elfen feidraidd yn Abertawe ac yn cydweithio ar yr argraffiad cyntaf o The Finite Element Method, traethawd sydd bellach yn glasur. 

Athro Olek Zienkiewicz, tua’r1980au 

I ddechrau, roedd y dull yn dilyn ymagwedd draddodiadol peirianneg strwythurol ond, wrth i'r sylfaen fathemategol gael ei deall, gwelwyd ei bod yn bosib rhoi’r dull ar waith mewn disgyblaethau eraill.  

Mae'r fethodoleg yn parhau i fod yn bwnc ymchwil sy'n ffynnu ac mae'n meddu ar gryn botensial mewn meysydd gwyddonol newydd, gan gynnwys peirianneg fiofeddygol a'r gwyddorau bywyd.  

Etholwyd Zienkiewicz yn Gymrawd gan y Gymdeithasol Frenhinol ym 1978. O ganlyniad i'w waith sefydlol, mae Adran Peirianneg Sifil Prifysgol Abertawe'n un o ganolfannau mwyaf blaenllaw'r byd ar gyfer ymchwil i'r elfen feidraidd hyd heddiw. 

Professor Olek Zienkiewicz stood in front of a blackboard with a series of equations written in chalk.

Athro Olek Zienkiewicz, tua’r1980au 

Gallwch gael gwybod rhagor am Zienkiewicz drwy ddarllen y traethawd hwn gan Roger Owens

Ceir y deunyddiau drwy garedigrwydd Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe.