Mae 2020 yn cofnodi Canmlwyddiant Prifysgol Abertawe. Yn ystod y podlediad arbennig hwn, clywch gan hanesydd y Brifysgol, Dr Sam Blaxland wrth iddo archwilio agweddau ar ei hanes er mwyn taflu goleuni ar natur ehangach bywyd yn y Brifysgol yn y Deyrnas Unedig. Dysgwch sut y caiff prifysgol ei sefydlu, sut mae cymunedau myfyrwyr a staff yn datblygu dros amser, a sut gall prifysgolion ddod yn ganolbwynt ar gyfer gwleidyddiaeth myfyrwyr a phrotestio. Mae’r podlediad hefyd yn archwilio rôl newidiol menywod ym mywyd  y brifysgol.

Mae’r podlediad hwn yn cyd-fynd â llyfr Dr Sam Blaxland, Swansea University: Campus and Community in a Post-War World, 1945-2020 yn berffaith. Ymunwch â Dr Blaxland wrth iddo siarad â haneswyr eraill, aelodau o staff a myfyrwyr er mwyn creu darlun o fywyd yn y brifysgol drwy gydol y ganrif a mwynhau cerddoriaeth gan fand Prifysgol Abertawe (a recordiwyd yn ystod y 1960au). Mae hwn yn bodlediad ar gyfer unrhyw un â diddordeb ym myd addysg uwch a sut gall prifysgolion newid bywydau pobl yn sylfaenol.

Gwrandewch ar y podlediad

Listen on Spotify / Botwm Gwrandewch ar Spotify

Listen on Apple Podcasts / Botwm Gwrandewch ar Apple Podcasts

1 – Sylfeini, staff a myfyrwyr enwog

Mae’r bennod hon yn archwilio blynyddoedd cynnar Prifysgol Abertawe a sut datblygodd, â phwyslais ar enwogion a ddylanwadodd ar ddatblygiad y Brifysgol.

2 – Datblygu’r Campws

Mae Sam Blaxland yn trafod ehangu ystâd y Brifysgol, pam roedd datblygu campws yn radical a sut effeithiodd hyn ar fywyd yn y brifysgol.

3 - Gwrthdystiad a gwleidyddiaeth

Mae Sam yn ail-fyw blynyddoedd allweddol rhwng diwedd y 60au a blynyddoedd cynnar y 70au pan welwyd gwrthdystiadau mawr ym Mhrifysgol Abertawe, gan wrth-droi trefn naturiol y Brifysgol.

4 – Menywod yn y byd academaidd

Mae Dr Blaxland yn archwilio rhai cyfnodau allweddol o newid ar gyfer menywod a oedd yn gweithio ac yn astudio yn y Brifysgol.