Graddiodd Rawan gyda MSC mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd yn 2018. Mae hi bellach yn gweithio gyda Rhaglen Datblygu’r Cenhedloedd Unedig (UNDP) fel Cymrawd Materion Dyngarol. Mae Rawan yn gweithio yn Sambia ac mae ei rôl yn rhan o raglen cymrodoriaethau ar gyfer arweinwyr benywaidd ifanc a gynigir ar y cyd gan y Cenhedloedd Unedig a Chomisiwn yr Undeb Affricanaidd. 

Yn ei swydd gydag UNDP, mae Rawan yn gweithio ar y cynllun ymateb dyngarol i ddarparu mecanweithiau ar gyfer adfer cynnar a gwytnwch i helpu i ddiogelu bywydau a bywoliaeth Sambiaid yn dilyn y glaw afreolaidd sydd wedi deillio o newid yn yr hinsawdd, gan achosi sychderau mewn rhannau amrywiol o’r wlad a thiriogaethau deheuol Affrica. 

Mae Rawan yn dweud wrthym am ei phrofiad ym Mhrifysgol Abertawe isod:

Rawan Taha yn sefyll wrth fonyn coeden fawr

Fel menyw Affricanaidd ysgolheigaidd ifanc, roeddwn i’n chwilio am brifysgol a oedd yn darparu cyfleoedd i arweinwyr ifanc fel fi. Ar ôl i fi wneud cais am Ysgoloriaeth Eira Francis Davies ar gyfer Menywod Affricanaidd yn y Gwyddorau Iechyd a chael fy newis, penderfynais i astudio yn Abertawe. 

Yr hyn y gwnes i ei fwynhau fwyaf am fy nghwrs oedd y rhyddid i ysgrifennu fy aseiniadau ar bynciau o’m dewis, ac i ddatblygu fy nghwricwla fy hun, fy rhestrau darllen fy hun, a’m diddordebau fy hun. Oherwydd hynny, erbyn i fi raddio, roedd gennyf wybodaeth helaeth am amrywiaeth eang o bynciau, ac rwyf wedi ymchwilio i feysydd sy’n mynd y tu hwnt i faes iechyd cyhoeddus. Mae hyn wedi cyfrannu at fy nealltwriaeth gyfannol o systemau iechyd drwy integreiddio safbwyntiau cymdeithasol a meddygol. 

Fi oedd cynrychiolydd pwnc Iechyd Cyhoeddus fy ngharfan. Roeddwn i hefyd yn aelod o gymdeithas Cyfeillion MSF (Médecins Sans Frontières). Drwy gydol fy mlwyddyn academaidd, roedd gennyf nifer o swyddi ar y campws. Bues i’n gweithio gyda Gwasanaethau Gwirfoddoli Myfyrwyr Discovery yn ystod yr haf fel Cynorthwy-ydd i Wirfoddolwyr ag Anghenion Arbennig. 

Bues i hefyd yn gweithio fel Intern Ymchwil yn y Ganolfan Polisi ac Ymchwil Anafiadau Llosgi Byd-eang dan oruchwyliaeth yr Athro Tom PotokarAr ben hynny, bues i ar ddau leoliad gwaith, un gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’r llall gyda Chanolfan Gydweithredol ar gyfer Cemegion Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yng Nghaerdydd. Mae’r cyfleoedd hyn wedi cyfrannu at fy natblygiad academaidd a gyrfaol hyd yn oed y tu hwnt i’m gwaith cwrs a’m darlithoedd. 

Fy nghyngor i fyfyrwyr presennol yw y dylech ddefnyddio eich amser yn y Brifysgol i ddatblygu y tu hwnt i’ch gradd, eich traethawd ymchwil a’ch trawsgrifiadau. Dim ond wedyn y byddwch chi’n gallu sicrhau swydd a bywyd sydd y tu hwnt i’ch disgwyliadau.”