Jayne Cornelius yw Swyddog Teithio Cynaliadwy Prifysgol Abertawe. Ymunodd hi â’r Brifysgol ym mis Mehefin 2014 fel Cydlynydd y Cynllun Teithio; blwyddyn cyn agoriad Campws y Bae.  

Dechreuodd Jayne ym myd cynllunio teithio yn 2002 fel Cydlynydd Cynllun Teithio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru.Yn 2010, enillodd hi wobr Cynlluniwr Teithio’r Flwyddyn y DU yng Ngwobrau Trafnidiaeth Cymudwyr y DU ac yn 2016 yng Ngwobrau Cenedlaethol Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth, cafodd wobr am ‘Cyfraniad Rhagorol i Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth Cymru’. 

Beth mae ‘teithio cynaliadwy’ yn ei olygu i chi? 

I fi, mae teithio cynaliadwy yn golygu meddwl am sut rydyn ni’n teithio bob dydd a sut mae’n effeithio ar ein hiechyd, iechyd pobl eraill a’r amgylchedd.Mae dewis teithio ar y bws yn lleihau’r traffig ar yr heolydd ac yn lleihau’r lleoedd parcio bydd eu hangen arnon ni.Bydd llai o geir yn gwneud ansawdd yr aer yn well ac yn lleihau’r effaith byddwn ni’n ei chael ar adnoddau cyfyngedig.Mae seiclo a cherdded ar deithiau byrrach yn gwneud gwahaniaeth mawr hefyd.Pe tasai’r 60% o bobl sydd  yn defnyddio ceir ar gyfer teithiau byr rhwng un a dwy filltir ar hyn o bryd yn cerdded neu’n seiclo, bydden ni’n gweld cynifer o fuddion nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Llun o Jayne Cornelius gyda beic Santander

Pa gamau ydych chi’n eu cymryd er mwyn gwneud eich ffordd o deithio’n wyrddach? 

Gwnes i’r penderfyniad llynedd i roi’r gorau i’m hawlen barcio, gadael allweddi fy nghar a theithio i’r gwaith ar y bws bob dydd.Mae hyn yn golygu dal dau fws a bydd yr amser teithio’n hirach, ond rydw i wedi darganfod bod treulio’r amser hwn yn gwneud rhywbeth rydw i’n ei fwynhau fel darllen, gwau neu wrando ar gerddoriaeth, yn bwrw’r amser.Hefyd, y swm blynyddol bydda i’n ei dalu er mwyn cymudo yw £380 yn unig, felly rydw i’n arbed arian ar yr un pryd â gwneud rhywbeth dros y blaned! 

Pa bethau syml allwn ni i gyd eu gwneud er mwyn newid sut rydyn ni’n teithio? 

Y peth gorau y gallwn ni i gyd ei wneud yw newid y car i seiclo a cherdded ar gyfer teithiau byr.Pe bai pawb yn ymrwymo i hynny, byddai’n gwneud gwahaniaeth enfawr.Mae teithio rhwng y campysau’n rhad ac am ddim ar y bws, neu gallwch chi seiclo a hawlio’r treuliau ar ei gyfer.Os yw staff am gymudo i’r gwaith ar feic, gallan nhw ddewis un o’n teithiau a arweinir gan y Brifysgol. 

Beth yw eich cyflawniad mwyaf hyd yn hyn o ran cynyddu teithio cynaliadwy? 

Rydyn ni wedi ennill nifer o wobrau ar lefel y DU ac yn genedlaethol ar gyfer ein Cynllun Teithio Cynaliadwy, yn ogystal â bod yn gyflogwr a’r  brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill achrediad Cyflogwr sy’n Cefnogi Beicio (yn y DU). 

Hefyd, roedd bod yn rhan o ymgyrch y Brifysgol i ennill y cynllun llogi beiciau cyntaf yn y byd i gael cyllid torfol ochr yn ochr â grŵp o gydweithwyr anhygoel, yn ddiwrnod i’w gofio.Mae gweld myfyrwyr, staff a’r cyhoedd yn defnyddio’r beiciau Santander yn gwneud i mi fod yn falch iawn o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd.