Augustine Egwebe yn graddio

Rydym ni bellach yn derbyn mwy o fyfyrwyr drwy’r broses glirio yn Abertawe nag erioed o’r blaen.Mae Dr Augustine Egwebe, a ddaeth i Abertawe drwy’r system glirio, yn dweud mai Abertawe oedd ei ddewis cyntaf drwy’r amser, ac ar ôl iddo astudio, arhosodd er mwyn dechrau ei yrfa fel darlithydd mewn Electroneg a Pheirianneg. 

“Fy rheswm dros aros a gwneud fy PhD oedd hanes y Brifysgol o ran rhagoriaeth ym maes ymchwil a’r llwybr gyrfaol roedd hi’n ei gynnig,” meddai Dr Egwebe.“Mae Prifysgol Abertawe gyda’i champysau hunangynhwysol yn llwyddo i gyfuno ymdeimlad cryf o gymuned ag ymdeimlad cosmopolitaidd oherwydd ei bod yn agos at y ddinas sy’n ei gwneud yn berffaith ar gyfer bywyd myfyrwyr.Hefyd, roedd fy ffrindiau wedi argymell Abertawe, felly roeddwn i’n gwybod fy mod i’n gwneud y dewis gorau wrth ddod yma.Ar ôl cwblhau fy BEng a’m PhD yma, mae Abertawe bellach yn teimlo fel ail gartref.” 

Roedd Dr Egwebe bob amser wedi cymryd diddordeb mewn cefnogi pobl eraill, ac fel arddangoswr mewn labordai yn ystod ei astudiaethau PhD, gwnaeth ei frwdfrydedd gynyddu.Mae e’n dweud bod addysgu’n rhoi iddo’r llwyfan perffaith er mwyn rhoi ar waith yr hyn a ddysgodd fel myfyriwr:“Roedd bod yn rhan o dîm a oedd yn creu hanes yn y Coleg Peirianneg, ar flaen y gad o ran yr ymchwil a’r arloesi diweddaraf, a gallu addysgu’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr yn golygu roeddwn i’n gallu meithrin a datblygu fy ngyrfa fel academydd.” 

Mae Dr Egwebe’n credu bod addysgu arloesol a chynhwysol yn allweddol i gyfranogiad myfyrwyr. 

“Dylai addysgu fod yn gyffrous, gyda throad cyfoes,” meddai.“Rydw i’n ceisio cynnwys fy ymchwil yn fy narlithoedd, ac rydw i’n gweithio gyda’m myfyrwyr ar y cynnwys, felly maen nhw’n mynegi barn am yr hyn i’w astudio.Mae cyfranogiad gan fyfyrwyr yn dal i fod yn gyffrous i mi.Ochr yn ochr â hyn, rydw i’n credu bob cymorth penodol drwy gydol gyrfa myfyriwr yn hanfodol hefyd.Y rhan orau am fy swydd yw gweithio gyda myfyrwyr yn bendant, i’w cefnogi i fod y gorau y gallan nhw fod – mae’n gyffrous eu gweld yn troi’n beirianwyr y dyfodol!” 

Cariad arall sydd gan Dr Egwebe yw’r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd, a defnyddio ei ymchwil i ynni cynaliadwy. Mae e’n gobeithio helpu i wneud gwahaniaeth i’r materion sy’n effeithio ar ein hinsawdd heddiw. 

I fyfyrwyr eraill sy’n ystyried dod i Abertawe drwy’r broses Glirio, mae gan Dr Egwebe eiriau cryf i’w hannog:“Yn Abertawe, rydych chi’n sicr o gael profiad bendigedig fel myfyriwr a chefnogaeth academaidd ardderchog.Mae gan y Brifysgol yr holl gyfleusterau, gyda staff ardderchog, cyfleusterau addysgu arloesol ac amgylchedd byw cynhwysol.   Mae’r staff yma eisiau’r gorau i chi, ac os ydych chi’n cysylltu â nhw, byddan nhw’n eich helpu ar eich taith.”