Ym Mhrifysgol Abertawe rydyn ni’n ymrwymedig i helpu’ch sefydliad i lwyddo yn yr hinsawdd economaidd fyd-eang bresennol. Rydyn ni eisiau eich cefnogi chi i ddod o hyd i’r dalent orau a chynnig porth i’n carfan o fwy na 20,000 o fyfyrwyr a graddedigion.

Mae ein graddedigion diweddar wedi profi marchnad lafur na welwyd mo'i thebyg o'r blaen, oherwydd mae'r byd gwaith wedi gweld symudiad enfawr; mae'r farchnad swyddi wedi cael ei throi ar ei phen gan y pandemig ac mae bywyd wedi newid yn sylweddol mewn ychydig fisoedd.

Er gwaethaf hyn, gwyddom fod gan ein graddedigion y sgiliau y mae eu hangen ar eich busnes, ac rydym am eich helpu CHI, i'w helpu nhw.

Yn ogystal â hynny, mae'r garfan hon o raddedigion yn mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau, gan gyrchu ein Cwrs Datblygu Gyrfa i Raddedigion ac yn datblygu eu sgiliau drwy gymryd rhan yn ein cyfleoedd hyfforddiant unigryw i raddedigion, gan eu harfogi'n well na'ch graddedigion cyffredin.

Ein Rhaglen Cymorth i Raddedigion

Rydym yn cynnal ffeiriau gyrfaoedd sy'n benodol i raddedigion, gan ein galluogi ni i'ch rhoi chi mewn cyswllt uniongyrchol â'r graddedigion gorau, o'r disgyblaethau amrywiol.

Gallwch gofrestru ar gyfer ein bwrdd swyddi am ddim yn ogystal â'n grŵp LinkedIn rhwydwaith cymorth i raddedigion i hysbysebu cyfleoedd a chysylltu â graddedigion.

Yn olaf, mae gennym gyllid ar gael ar gyfer interniaethau 3 mis. Gallwn eich cefnogi drwy dalu am gost cyflog Graddedigion, os byddwch yn eu cyflogi fel gweithwyr.

Mae ein hinterniaethau, y gellir eu cyflawni yn y fan a’r lle neu o hirbell, yn rhoi ichi’r manteision o wybodaeth arbenigol ein myfyrwyr ac yn caniatáu ichi weld cyflogeion posibl wrth eu gwaith cyn cyflogi.

Drwy ddarparu profiad gwaith, gall eich sefydliad fod o les hefyd i’n myfyrwyr drwy eu helpu i ddatblygu eu sgiliau yn y byd go iawn, gan fagu eu hyder yn y gweithle rhithwir newydd ac ymestyn eu rhwydwaith proffesiynol.

Sut mae Interniaethau'n gweithio?

1. Byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer eich rôl

Gallwn hysbysebu rolau gyda'n carfan o Raddedigion talentog, neu gallwn eich cysylltu â graddedigion penodol rydym yn meddwl sy'n berthnasol i'ch rôl.

2. Dilyn eich proses AD arferol i sefydlu eich gweithiwr newydd

Gallwn eich cefnogi gyda'n pecyn interniaeth. Dylai'r contract gwaith dros dro fod am o leiaf 420 o oriau, yn talu cyfraddau tâl y Living Wage Foundation (£9.50 yr awr y tu allan i Lundain). Fel cyflogwr yr intern, eich cyfrifoldeb chi fydd rheoliadau treth, YG, tâl salwch a gwyliau.

3. Hawliwch eich grant 

Unwaith bydd pecyn yr interniaeth wedi'i lofnodi gennych chi, eich arbenigwyr cyflogadwyedd a'ch intern newydd, gallwch anfon anfoneb atom am grant gwerth £3990 di-dreth hwn.

E-bostiwch  y tîm cyflogadwyedd neu ewch i'n gwefan i gael gwybod am yr holl gyfleoedd rydym yn gallu eu cynnig i chi. Rydym yn edrych ymlaen at eich helpu i ddod o hyd i'ch intern neu weithiwr.

Rhannu'r stori