Kubai

Gwella'r ffordd y caiff ffwrneisi chwyth eu llwytho a'u troi

Gwnaeth Szymon Kubal, arbenigwr mewn technoleg broses i Tata Steel, ddatblygu technoleg newydd i fonitro dur tawdd tra bod yn gymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe.

Ar hyn o bryd ym myd cynhyrchu dur, rhwystrir y gwaith cynhyrchu wrth i chwiledydd untro gael ei dansuddo yn y metel tawdd er mwyn mesur y tymheredd a chymryd samplau. Mae hyn yn aneffeithlon gan ei fod yn cymryd amser, yn gofyn am chwiledyddion drud ac yn lleihau’r cynhyrchiant.

Felly mae’r dechnoleg a ddatblygwyd gan Dr Kubal yn defnyddio pelydr laser a deflir ym math y ffwrnes dawdd i fonitro’r cynnwys yn barhaus, ac mae’n golygu nad oes angen rhwystro’r gwaith cynhyrchu mwyach.

Mae’r dechnoleg newydd hon yn galluogi gwneuthurwyr dur i fonitro mewn amser real y tymheredd a’r cyfansawdd cemegol mewn ffwrneisi metel tawdd, gan wella effeithlondeb gweithredol y gweithfeydd dur ac yn arbed hyd at £4.5 miliwn y flwyddyn i Tata Steel ac yn lleihau maint y tarthiadau CO2 sy’n berthynol i’r hyn a gynhyrchwyd yn flaenorol ar gyfer yr un maint o ddur.

Trwy weithio gyda Tata Steel UK, roedd Dr Kubal a’r tîm o Brifysgol Abertawe yn gallu paratoi a chynnal treialon ar raddfa lawn, a phrofi eu harloesedd mewn gwaith dur gweithredol o dan amgylchiadau cynhyrchu.

Mae Kubal-Wraith Ltd, cwmni deillio gan Brifysgol Abertawe a sefydlwyd gan Dr Kubal, bellach yn datblygu’r dechnoleg yn fasnachol.