Trosolwg Canolfan

Mae'r Grŵp Ymchwil Clefydau, Lles ac Adfer Morol (MDWR) yn archwilio sut mae clefydau, maeth a straenachoswyr amgylcheddol yn dylanwadu ar iechyd, lles a gwydnwch rhywogaethau dyfrol, gan ganolbwyntio'n benodol ar bysgod cregyn. 

Mae'r grŵp yn integreiddio dyframaeth arbrofol, ecoleg clefydau a gwyddor gwasanaethau ecosystem er mwyn mynd i’r afael â heriau cymhwysol y mae dulliau cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac adfer morol yn eu hwynebu. Mae ymchwil bresennol y grŵp yn cwmpasu bwydydd swyddogaethol a lles mewn dyframaeth berdys, adfer wystrys brodorol a gwerthuso gwasanaethau ecosystem, a rhyngweithiadau parasit-lletywr mewn cramenogion gwyllt.

Ymhlith y themâu ymchwil craidd mae:

  • Lles anifeiliaid dyfrol ac asesu eu cyflwr
  • Ecoleg clefydau morol a dynameg parasitiaid
  • Dyframaeth gynaliadwy a bwydydd swyddogaethol
  • Adfer pysgod cregyn a gwasanaethau ecosystem
  • Trosi gwyddoniaeth yn bolisi, diwydiant, ac arferion adferol

Nod y grŵp yw creu ymchwil a arweinir gan dystiolaeth, sy'n berthnasol i bolisi ac sy'n cefnogi dyframaeth gynaliadwy, ecosystemau arfordirol gwydn, a rheoli morol cyfrifol.