Mae Dania yn ymchwilio i'r ddynameg ysglyfaethwr-ysglyfaeth rhwng algâu gwyrdd (e.e.Scenedesmus spp. a Chlorella spp.) a chwain dŵr (e.e.Daphnia magna). Mae ei phrosiect (a ariennir gan Brifysgol Abertawe) yn astudio ac yn modelu strategaethau amddiffyn cymelladwy a ddatblygir gan algâu i wrthsefyll ysglyfaethu gan sŵoplancton llysysol.
Goruchwylwyr: Yr Athro Kam Tang, Dr Carole Llewellyn a Dr Mike Fowler