CSAR

Cyfleusterau'r ganolfan ymchwil dyfrol cynaliadwy (csar) ar gyfer pysgod

Adeilad yr amgylchedd rheoledig 750m2 yw'r Ganolfan, sy'n cynnwys chwe labordy gwlyb, labordy sych, cyfleuster cwarantin a thri labordy pwrpasol i bysgod sydd wedi'u lleoli yn Adran y Biowyddorau.

Fel arfer, caiff holl brif systemau'r Ganolfan eu gweithredu fel systemau dyframaeth ailgylchredeg, ond gellir eu hailgyflunio fel system statig neu system 'llif drwodd' os oes angen.

Mae'r systemau canolig ar gyfer rheoli tymheredd yr aer a'r dŵr yn ein galluogi i gynnal y tymheredd rhwng 10 a 27°C ar draws y systemau dŵr croyw, dŵr hallt neu ddŵr y môr.Caiff dŵr lleol o'r môr ei echdynnu o Fae Abertawe gerllaw, a chaiff ei hidlo rhag tywod a'i sterileiddio gan osôn.

Gellir rhaglennu'r goleuadau yn ôl dwysedd y goleuadau a hyd y 'diwrnod,' a cheir generadur 500Kva i'w ddefnyddio fel pŵer trydanol wrth gefn. Mae'r systemau cynnal bywyd yn cynnwys hidlydd tywod, sgimiwr protein, biohidlydd, a diheintydd UV, yn ogystal â system alcalinedd a system rheoli pH. Mae chwiliedyddion yn ôl sefyllfaoedd a larymau yn monitro'r systemau cynnal bywyd drwy rwydwaith SCADA cynhwysfawr, sy'n galluogi defnyddwyr i ryngwynebu drwy sgriniau cyfwrdd cyfagos ac o bell gan ddefnyddio bwrdd gwaith a ffonau symudol.

Systemau dyframaeth ailgylchredeg ar raddfa'r diwydiant

Mae gan ddau labordy mwyaf y Ganolfan systemau dyframaeth ailgylchredeg ar raddfa'r diwydiant – mae pob un ohonynt yn dal 60m3, ac mae cyfraddau cylchredeg y dŵr hyd at 100m3/awr.

RAS B

Y cyfleuster cwarantin

  • 5 o danciau magu maint 1.4m mewn diamedr (cyfaint gweithredu 1.5m 3)
  • System dyframaeth ailgylchredeg hunangynhwysol, sydd ar wahân i’r holl systemau eraill
Quaranitine

Labordai pysgod penodol

Labordy dŵr croyw

System dyframaeth ailgylchredeg hunangynhwysol (gyda dewis o system 'llif drwodd') yn ogystal â:

  • 6 o danciau magu maint 180L
  • 4 o gafnau magu pysgod ifanc ac ymddygiad
  • 8 hambwrdd deor wyau salmonid
  • Arena arbrofion ymddygiadol
Labordy trofannol Labordy pysgod abwyd Labordy model anifeiliaid dyfrol

Biodechnoleg algaidd yn y ganolfan

Mae gan y Ganolfan y cyfleuster cynhyrchu microalgâu mwyaf o blith y prifysgolion ym Mhrydain, ac mae'n cynnig arbenigedd o ran gwaith ymchwil a datblygiad technolegol i fusnesau sy'n dymuno cymryd rhan yn y maes technolegol hwn. Mae ein meysydd arbenigedd yn cynnwys:

  • Llyfrgell o rywogaethau microalgâu
  • Technolegau rheoli ansawdd dŵr
  • Modelu er mwyn sicrhau bod y gwaith o ddylunio'r broses a'i rhoi ar waith mor effeithiol ag sy'n bosibl
  • Technolegau medi, ymgasglu a gwahanu
  • Cynhyrchu symiau o fiomas algaidd ar raddfa'r labordy
  • Nodweddu cynnyrch o safbwynt ffisegol a chemegol
  • Sgrinio ar gyfer priodweddau bioweithredol
  • Profi deunyddiau
  • Datblygu a gwerthuso ychwanegion i fwyd
  • Deorfa macroalgaidd (gwymon)

 Sector busnes newydd a datblygol yw biodechnoleg algaidd, sydd â chymwysiadau mewn meysydd mor amrywiol, megis biodanwyddau o'r ail genhedlaeth, dal carbon deuocsid, adfer gwastraff dŵr a gweithgynhyrchu cynnyrch naturiol (e.e. olewau omega-3, pigmentau, gwrthocsidyddion).

Cyfleusterau algâu

Labordy algâu

Labordy rheoli'r tymheredd yn ogystal â:

  • Costreli diwylliannau di-haint 20ml  → 2L → 20L
  • 20 x 100L capasiti diwylliant llwythi
  • Diwylliant o rywogaethau morol a dŵr croyw
  • Technolegau medi, ymgasglu a gwahanu
  • Deorfa macroalgaidd (gwymon)
Tŷ gwydr
Labordy sych

Labordy sych

Mae gan y Ganolfan labordy sych pwrpasol sydd ag offer arbenigol ynddo i'w defnyddio ym meysydd microsgopeg, histoleg, cemeg dŵr, technegau dadansoddol a diwylliant celloedd