Shannon Rowlands

Shannon Rowlands

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
Meddygaeth (i Raddedigion), MBBCH

Roedd aros yng Nghymru i astudio yn bwysig i fi, a Phrifysgol Abertawe oedd y sefydliad agosaf at gartref oedd yn cynnig Meddygaeth i Raddedigion.

Pan ddes i’r diwrnod agored ac am fy nghyfweliad, roedd y Brifysgol yn teimlo fel lle cyfeillgar iawn. Roedd hyn yn wir am bawb nes i gyfarfod yn yr Ysgol Feddygol hefyd, a’r niferoedd weddol fach ar y cwrs yn gwneud i'r profiad deimlo'n fwy personol ac fel bod yn rhan o deulu. Dwi wedi bod yn ffodus i gael cwrdd â phobl a gweld pethau arbennig, sydd wir yn fraint. Dwi’n teimlo’n ffodus fy mod wedi cael lle i astudio Meddygaeth yma. Mae’r cwrs mor ddifyr ac yn cadw ni’n brysur ond dyw e ddim yn teimlo fel gymaint â hynny o waith pan fydd popeth mor ddiddorol.

Mae cymryd y cyfle i astudio rhan o’r cwrs yn y Gymraeg yn bwysig i fi hefyd. Dwi wedi bod yn ffodus i dderbyn ysgoloriaethau drwy gydol fy amser yn y Brifysgol, Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg ac Ysgoloriaeth Academi Hywel Teifi. Dwi wedi cael nifer o gyfleoedd ym Mhrifysgol Abertawe fel myfyriwr Cymraeg. Dwi wedi bod ar banel cyfweld y cwrs Meddygaeth, yn cynnig cyfweliadau Cymraeg i ddarpar fyfyrwyr. Bues i hefyd yn Llysgennad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am flwyddyn, a gobeithio gallu ysbrydoli myfyrwyr ysgolion Cymru i astudio Meddygaeth. Eleni, fe ges i’r cyfle unigryw i gymryd rhan yn Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd oedd yn gyfle da i drafod materion pwysig a chwrdd â myfyrwyr eraill fydden i byth wedi gallu eu cyfarfod heblaw am y cyfle hwn.

Mae yna gymaint o gymdeithasau i ymuno â nhw a rhywbeth at ddant pawb. Dwi wedi ymuno â’r côr gofal iechyd a sefydlu Cymdeithas Oncoleg Abertawe sydd wedi bod yn hwyl. Trwy sefydlu Cymdeithas Feddygol Gymraeg Prifysgol Abertawe dwi’n gobeithio y cawn ni gymdeithasu mwy drwy gyfrwng y Gymraeg a rhwydweithio gyda meddygon Cymraeg eraill.