Khalid Evans

Khalid Evans

Gwlad:
Saudi Arabia
Cwrs:
BSc Peirianneg Meddalwedd

Roedd Prifysgol Abertawe yn sefyll allan o lawer o brifysgolion eraill oherwydd y cyfleusterau newydd a adeiladwyd ganddynt. Fel peiriannydd meddalwedd, roedd adeilad y Ffowndri Gyfrifiadurol yn newydd sbon gyda llawer o labordai sy'n cynnwys cyfrifiaduron Linux ac ystafelloedd gweithdai sydd ag argraffwyr 3D a pheiriannau eraill.

Y peth rydw i'n ei fwynhau fwyaf am fy nghwrs Peirianneg Meddalwedd yw'r modiwlau a'r aseiniadau rhaglennu. Mae'r holl fodiwlau rydw i wedi'u cymryd hyd yn hyn wedi bod yn hwyl ac yn ddiddorol iawn i'w dysgu. O ddysgu am gronfeydd data i sut mae gweinyddwyr yn cyfathrebu â chleientiaid. Mae gan y cwrs hwn yn union yr hyn yr wyf am ei ddysgu a datblygu fy sgiliau ynddo.

Un o'm tri hoff beth am Abertawe yw'r cludiant cyson. Mae digon o fysiau a all fynd â chi i unrhyw le yn Abertawe fwy neu lai.

Peth arall roeddwn i'n ei hoffi am Abertawe yw'r nifer o gymdeithasau a chlybiau sydd gan y brifysgol i'w cynnig. Rwyf wedi ymuno â'r Gymdeithas Cyfrifiadureg sy'n cynnal digwyddiadau yn gyson drwy gydol y flwyddyn. Y llynedd, ymunais i â'r gymdeithas cic focsio a oedd yn heriol a dyna'n union pam roeddwn i'n ei hoffi.

Ac yn olaf, fy hoff beth am Abertawe… yw mai Abertawe yw hi, mae digon o draethau i fynd iddynt: o draeth Campws y Bae i draethau eraill fel y 3 Chlogwyn sy’n anhygoel ac yn rhaid mynd yna os ydych yn Abertawe.

Byddwn yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol oherwydd ei bod yn amrywiol iawn. Mae yna bob math o bobl sydd wedi dod o wahanol rannau o'r byd i astudio yn y brifysgol hon. Byddwch chi byth yn teimlo ar ben eich hun. Mae Prifysgol Abertawe yn poeni am eu holl fyfyrwyr ac wedi ariannu cymaint o gymdeithasau fel y gymdeithas Islamaidd, Saudi, Qatar, a chymdeithas Kuwait.