Joren Van Hamme

Joren Van Hamme

Gwlad:
Gwlad Belg
Cwrs:
LLM Cyfraith Forwrol Ryngwladol

Llwyddodd fy mlwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe i fodloni pob un o’m disgwyliadau yn llwyr. 

Tîm addysgu uchel ei gymhelliant, ac amgylchedd rhyngwladol, llyfrgell a gaiff ei diweddaru’n rheolaidd a digon o dafarndai er mwyn gallu ymlacio a chyfarfod â’ch ffrindiau ar ôl diwrnod caled o waith! Bydd astudio LLM ym Mhrifysgol Abertawe, yn fy marn i, yn sicrhau eich bod yn meddu ar yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i lwyddo yn y byd morol. At hynny, bydd y seminarau, a gynhelir mewn grwpiau bach, yn rhoi’r cyfle i chi feithrin eich sgiliau i lefaru ar ran grŵp ac amddiffyn eich safbwyntiau mewn perthynas â phwnc penodol. Astudio ym Mhrifysgol Abertawe… ni chewch gyfle i ddiflasu!