Jennifer Pink

Jennifer Pink

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
PhD Seicoleg

Ym mha gyfadran ydych chi’n gweithio?

Rwy'n gweithio yn Ysgol Seicoleg y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.

Beth oedd eich rhesymau dros astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Cyrhaeddais Brifysgol Abertawe yn 2018, ar ôl gyrfa lwyddiannus ym maes logisteg.
Roeddwn eisoes wedi ennill BSc mewn Mathemateg ac Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Caerefrog ym 1998, cyn penderfynu astudio seicoleg drwy'r Brifysgol Agored yn 2005 gan fod y pwnc o ddiddordeb mawr i mi. Er fy mod yn gweithio'n amser llawn, enillais radd dosbarth cyntaf a wnaeth gynnau'r awydd ynof i wneud rhagor o astudiaethau a gweithio tuag at gymwysterau ôl-raddedig ym maes seicoleg.

Seicopathi a throseddu oedd testun fy niddordeb. Felly, gwnes i gyflwyno cais a chael fy nerbyn i astudio'r MSC mewn Seicoleg Annormal a Chlinigol yn Abertawe a rhoddwyd un o ysgoloriaethau rhagoriaeth ymchwil hael Abertawe i mi.

Yn 2019, gwnes i sicrhau rhagor o gyllid drwy'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol i gwblhau ail gwrs MSc, Dulliau Ymchwil mewn Seicoleg, a PhD mewn Seicoleg.

Beth yw testun eich ymchwil?

Rwy'n ymchwilio i ddulliau amgen, sef dulliau ymhlyg, o fynegrifo seicopathi, sy'n anhwylder personoliaeth. Mae patrymau parhaus o ymddygiad, meddyliau ac agweddau camaddasol yn nodweddiadol o'r fath anhwylderau.

Yn aml, defnyddir mesurau hunanadrodd megis holiaduron i nodi anhwylderau personoliaeth neu nodweddion penodol. Fodd bynnag, gan fod y dulliau hyn yn agored i ffugio, maent yn peri problem i seicopathi oherwydd y cysylltiad rhyngddo ac ymddygiad ystrywgar a thwyll.

Mae fy ngwaith ymchwil yn asesu'r posibilrwydd o ddefnyddio tasgau arbrofol amgen, heb fod angen yr ymatebion dan reolaeth a phwyllog sy'n hanfodol i fesurau hunanadrodd, er mwyn asesu priodoleddau seicolegol sy'n gysylltiedig â seicopathi.

Beth a ysgogodd eich diddordeb yn y maes hwn?

Mae ffactorau personoliaeth a'r ffordd y maent yn cyfrannu at batrymau a mathau o droseddu wedi mynd â'm bryd erioed. Mae gennyf ddiddordeb penodol mewn seicopathi oherwydd y cysylltiad rhyngddo a throseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac aildroseddu.

Beth hoffech i’ch gwaith ymchwil ei gyflawni?

Pe bai modd defnyddio dulliau ymhlyg i fynegrifo anhwylderau personoliaeth, megis seicopathi, byddent yn ddefnyddiol yn y byd go iawn mewn lleoliadau clinigol a fforensig i ategu'r holiaduron a'r cyfweliadau strwythuredig a ddefnyddir ar hyn o bryd. Byddent yn cynnig gwelliant sylweddol wrth ymdrin â thwyll mewn amgylcheddau fforensig.

Beth yw prif fanteision gwneud eich gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe?

Rwyf wedi manteisio ar lawer o gyrsiau ardderchog a gynhelir gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd a'r tîm Datblygu a Hyfforddi Sgiliau Ôl-raddedig. Mae'r rhain wedi fy helpu i fagu sgiliau mewn nifer o feysydd.

Mae fy ngoruchwyliwr, yr Athro Nicola Gray, hefyd wedi rhoi cyfleoedd cyhoeddi ac ymchwil ychwanegol i mi. Hyd yn hyn, rwyf wedi cyhoeddi pedair erthygl a adolygwyd gan gymheiriaid, ac rwyf wedi bod yn gweithio fel rhan o dîm ymchwil yr Athro Gray ar brosiect ymchwil ar y cyd â'r GIG, gan fapio effaith pandemig Covid-19 ar les seicolegol poblogaeth Cymru.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Hoffwn barhau i ymchwilio i faes seicopathi, anhwylderau personoliaeth a throseddu. Rwyf hefyd yn bwriadu addysgu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a'u hannog i ystyried gyrfaoedd fel ymchwilwyr.