Jemimah Grindell

Jemimah Grindell

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BSc Seicoleg

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?

Mae'r parciau ar frig y rhestr yn bendant (yn enwedig y Gerddi Botaneg ym Mharc Singleton a Gerddi Clun), dyw'r traethau ac ardal Gŵyr ddim yn bell ar eu hôl hi, yn ogystal â maint Abertawe fel dinas.

Wyt ti’n rhan, neu wedi bod yn rhan, o gymdeithas?

Rwy'n rhan o gôr siambr y Brifysgol ac rwyf wedi bod yn aelod o'r Undeb Cristnogol. Mae fy mhrofiad o'r ddau ohonynt wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac mae ffrindiau anhygoel a phrofiadau gwerthfawr iawn wedi deillio ohonyn nhw.

Wyt ti wedi byw mewn neuadd breswyl yn ystod dy gwrs?

Roeddwn i'n byw yng Nghefn Bryn yn fy mlwyddyn gyntaf. Roedd fy mhrofiad yn gymysg gan fod byw mewn neuadd breswyl yn anodd i mi. Roedd 18 o bobl yn byw yn fy fflat, a oedd yn heriol iawn i mi, a chwtogwyd ar ein hamser yn 2020. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn fy mod i wedi cael y profiad, ac o ganlyniad iddo mae gen i ffrindiau gwirioneddol wych rwy'n agos atyn nhw o hyd.

Pam gwnaethoch chi ddewis dod i astudio am radd yn Abertawe?

Fel prifysgol, roedd Abertawe'n rhoi ymdeimlad gwych i mi. Rwy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr hefyd, felly roeddwn i wrth fy modd gyda'i hagosrwydd at fy nheulu. Rwy'n cofio mynd i'r diwrnod agored pan oeddwn i'n dal i astudio ar gyfer fy arholiadau Safon Uwch, ac roedd fy nhad a minnau'n cytuno ei fod yn teimlo fel ail gartref i mi bron yn syth. Mae'n dal i deimlo fel hynny heddiw bron tair blynedd yn ddiweddarach.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?

Rwy'n dwlu ar ehangder fy nghwrs. Mae seicoleg yn eich sefydlu mor dda ar gyfer ystod enfawr o bosibiliadau yn y dyfodol. Mae hynny'n anhygoel i mi! O fioleg yr ymennydd i agweddau cymdeithasol ar gymdeithas, mae seicoleg yn cwmpasu'r cyfan. Rwy'n dwlu ar hynny.

Sut brofiad oedd astudio yn ystod y pandemig?

Roedd yn bendant yn heriol. Bu ambell fantais ac mae asesiadau ar-lein yn gweddu i'm harddull ddysgu yn well nag arholiadau traddodiadol. Ond roedd cadw cymhelliant a theimlo fel eich bod yn rhan o brofiad y brifysgol ar-lein yn anodd iawn. Ar y cyfan, rwy'n credu bod Abertawe wedi gwneud (ac mae'n dal i wneud) gwaith gwych o ran addasu i'r newid a darparu ar gyfer blynyddoedd gwirioneddol anodd.

Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?

Ar ôl i mi raddio, rwy'n bwriadu cael profiad gwych a gwaith gwirfoddol yn y sector seicoleg, gan gynnwys plant ac oedolion sy'n agored i niwed gobeithio. Ar ôl cwpl o flynyddoedd o brofiad, rwy'n bwriadu astudio am radd meistr mewn therapi cerddoriaeth neu therapi chwarae.

A fyddech yn cynghori myfyrwyr eraill i ddewis Prifysgol Abertawe? Pam?

Byddwn i'n bendant yn cynghori myfyrwyr eraill i ddewis Prifysgol Abertawe. Mae ganddi deimlad anhygoel fel prifysgol. Mae dyfyniad gan Dylan Thomas lle mae'n dweud, “This sea-town was my world.” Rwy'n meddwl mai dyna sut mae pobl sydd wedi byw yma'n teimlo am Abertawe a'r brifysgol. Mae cymaint o dynfa i'w charu, ac mae'r brifysgol ei hun yn wych ar gyfer cynifer o bethau. Mae fy ffrindiau a minnau'n dwlu ar y lle hwn a byddwn i'n ei gymeradwyo'n bendant.