Eric Wen

Eric Wen

Gwlad:
China
Cwrs:
PhD Peirianneg Electronig a Thrydanol

Enw: Eric Wen

Pwnc:  MSc a PhD mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol

Cenedligrwydd: Tsieineaidd (cartref yng Nghymru)

Gwnes i orffen fy ngradd Meistr a'm PhD mewn peirianneg electronig a thrydanol ym Mhrifysgol Abertawe.

Pam ddewisais di astudio MSc mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol? 

Mae peirianwyr trydanol ac electronig yn gweithio i achub y blaen ym maes technoleg ymarferol, gan wella'r dyfeisiau a'r systemau rydym ni'n eu defnyddio bob dydd. Rydw i'n gwybod y bydd y radd hon yn fy rhoi mewn safle cryf ar gyfer fy nyfodol, pa bynnag lwybr gyrfa y bydda i'n penderfynu arno.

Beth oedd dy hoff beth am dy gwrs?  

Fy hoff beth oedd cael fy addysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd. Mae amrywiaeth o ddulliau addysgu fel darlithoedd, sesiynau yn y labordy ac astudio annibynnol yn creu amgylchedd dysgu delfrydol i mi. Rydw i'n hoffi'r modiwlau y mae Prifysgol Abertawe wedi'u pennu ar gyfer y cwrs. At hynny, mae modiwlau sy'n ymwneud â'r system pŵer, electroneg pŵer, lled-ddargludyddion a nanodechnoleg, sy'n golygu y bu modd i fyfyrwyr ddarganfod eu hoff lwybr.

Pam penderfynais di astudio am radd ym Mhrifysgol Abertawe?  

Ar ôl i mi orffen fy ngradd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, penderfynais ddilyn gradd PhD. Fel myfyriwr presennol, rydw i'n gyfarwydd â'r darlithwyr a rhai o'r myfyrwyr PhD. Rydw i'n gwybod eu bod nhw'n garedig iawn ac yn gymwynasgar iawn. Rydw i'n credu bod goruchwyliwr perffaith, cyfathrebu da a gwaith tîm yn allweddol wrth astudio am PhD yn llwyddiannus. Hefyd, mae'r Coleg Peirianneg yn symud o Gampws Singleton i Gampws newydd sbon y Bae, sydd â labordai penodol â chyfarpar da. Yn y cyfamser, mae enw da rhagorol Prifysgol Abertawe ar gyfer ymchwil hefyd yn rheswm pwysig dros barhau â'm PhD yn Abertawe.

Beth rwyt ti'n ei fwynhau orau am Abertawe a Phrifysgol Abertawe?  

Rydw i wir yn mwynhau'r profiad o astudio am PhD yma. Rydw i'n gwerthfawrogi fy ngoruchwyliwr Dr Meghdad Fazeli. Mae e'n berson caredig iawn. Rydym ni'n gwybod bod arweiniad yn hollbwysig ar gyfer ymchwil, yn enwedig pan fyddwch yn cael rhyw broblem benodol o ran techneg. Gwnaeth Dr Fazeli fy annog a'm helpu i ddatrys y problemau hyn. At hynny, oherwydd nad Saesneg yw fy iaith gyntaf, aeth ef drwy'r papur fesul gair gan wneud sylwadau a chywiriadau. Dysgais i lawer iawn. Os bydd rhywun yn meddwl am ddilyn gradd PhD mewn peirianneg drydanol ac electronig ym Mhrifysgol Abertawe, bydd Dr Fazeli yn ddewis gwych yn bendant.

Hefyd, rydw i'n mwynhau'r cyfleusterau a'r cyfarpar ar Gampws y Bae, sy'n fendigedig. Mae'r staff a'r myfyrwyr yn gyfeillgar yma. Mae Abertawe'n ddinas hyfryd a braf, ac rydw i'n mwynhau cerdded wrth ochr y traeth yn ystod fy amser rhydd.

Pa gyngor byddet ti'n ei roi i rywun sy'n meddwl astudio Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe?  

Mae llawer o fodiwlau sy'n cyfuno'r cwrs damcaniaethol ac arbrofion ym Mhrifysgol Abertawe. Mae angen bod yn gyfarwydd â'r pwnc y byddwch yn ei addysgu. Adolygu ac astudio'r cysyniadau y mae'r labordy yn seiliedig arnynt. At hynny, mae gwrando a chymryd nodiadau o sesiynau briffio cychwynnol ar ddechrau'r dosbarth yn arfer da; bydd y darlithydd neu'r arddangosydd yn trafod rhai o'r anawsterau cyffredin.

Beth wyt ti’n cynllunio/gobeithio ei wneud ar ôl cwblhau dy Ymchwil Ôl-raddedig?  

Rydw i'n edrych ymlaen at gyfle i ddechrau fy ngyrfa mewn peirianneg systemau pŵer go iawn, a defnyddio fy arbenigedd proffesiynol i'r eithaf.