Dongkai Chen

Dongkai Chen

Gwlad:
China
Cwrs:
Myfyriwr sy'n Ymweld

Enw: Dongkai Chen

Pwnc:  Peirianneg - myfyriwr yn ymweld o Tsieina am flwyddyn (Myfyriwr Israddedig yn Ymweld: Peirianneg a Thechnoleg Chongqing AMSER LLAWN am flwyddyn)

Cenedligrwydd / Cartref: Tsieina

Pam ddewisais di astudio Peirianneg?

Oherwydd bod peirianwaith megis ceir ac awyrennau wedi bod o ddiddordeb mawr i mi ers bod yn ifanc, ac roeddwn i'n mwynhau adeiladu ac addasu teganau Lego.

Wyt ti'n mwynhau dy brofiad fel myfyriwr sy'n ymweld â Phrifysgol Abertawe?

Ydw, rydw i'n mwynhau fy mhrofiad fel myfyrwyr sy'n ymweld â Phrifysgol Abertawe.

Pam penderfynais di astudio am flwyddyn fel myfyrwyr sy'n ymweld â Phrifysgol Abertawe?

Rydw i bob amser wedi breuddwydio am astudio yn y Deyrnas Unedig, a bydd astudio am flwyddyn fel myfyriwr sy'n ymweld mewn prifysgol sydd â chyfleusterau peirianneg o'r radd flaenaf yn fy helpu i addasu'n gyflymach i'm hastudiaethau neu fy ngwaith yn y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Roeddwn i'n meddwl y byddai'r cyrsiau peirianneg fecanyddol y mae Prifysgol Abertawe yn eu cynnig yn fy ngalluogi i ddysgu gwybodaeth fwy gynhwysfawr ac uwch.

Beth rwyt ti'n ei fwynhau orau am Abertawe a Phrifysgol Abertawe?

Yr hyn rydw i'n ei fwynhau orau am Abertawe: y golygfeydd dymunol, y tywydd cyfforddus, a'r awyrgylch cyfeillgar a diogel yn y ddinas. Yr hyn rydw i'n ei fwynhau orau am Brifysgol Abertawe yw'r gofal a'r cymorth ar gyfer ein hiechyd corfforol a meddyliol a'r ymdrechion gan gydweithwyr yn ystod yr epidemig er mwyn sicrhau na fyddwn ni'n dysgu llai drwy addysgu ar-lein na thrwy addysgu wyneb yn wyneb.

Sut brofiad oedd astudio yn ystod y pandemig?

Dyma'r rhan fwyaf bendigedig o'm profiad yn ystod y ddau semester hyn. Ni allaf rannu fy mhrofiad o gyrsiau arbrofol neu ymarferol oherwydd i mi ddewis cyrsiau damcaniaethol. Rydw i'n creu bod y mwyafrif helaeth ohonom ni wedi addasu at addysgu ar-lein oherwydd gallwn gael adnoddau TG, adnoddau'r llyfrgell, cyswllt o bell a phob math o adnoddau a gwasanaethau cymorth gan adrannau'r brifysgol, ac mae darlithwyr wedi trefnu cynnwys yn ofalus ar Canvas ac addasu cynnwys y cwricwlwm yn briodol at ddulliau addysgu gwahanol. Ar Canvas, mae'r profiad yn sefydlog ac yn reddfol ac mae'n ei gwneud hi'n haws i ni gyfathrebu â'r darlithydd. Mewn ffordd, mae addysgu ar-lein hyd yn oed yn fy ngwneud i ddysgu'n well.

Pa gyngor byddet ti'n ei roi i rywun sy'n ystyried astudio Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe?

Rydw i'n siŵr y gall unrhyw fyfyriwr sydd am ddysgu rhywbeth a dod yn beiriannydd da gyflawni'r hyn mae'n ei ddymuno ym Mhrifysgol Abertawe.

Beth wyt ti'n cynllunio/gobeithio ei wneud ar ôl astudio dy radd (fel swydd, ymchwil, gyrfa)?

Rydw i'n gobeithio astudio am radd Meistr mewn peirianneg ar ôl gorffen fy mlwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe, a chymryd rhan mewn gwaith ymgynghori yn y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Gall y profiad ym Mhrifysgol Abertawe eleni fy helpu lawer, sy'n ddechrau sylweddol a buddiol.