Daniel Hall-Jones

Daniel Hall-Jones

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BSc Rheoli Busnes

Roedd sawl ffactor yn sail i'm penderfyniad dros ddewis Prifysgol Abertawe. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae datblygiad clir a pharhaus y brifysgol yn dyst i'w hagwedd i gynnig profiad addysg uwch gwerth chweil i fyfyrwyr. 

O'i chyfleusterau arloesol ar y ddau gampws, i'r cyfle i dderbyn addysg o'r safon flaenaf o ran fframweithiau rhagoriaeth, doedd dim amheuaeth mae dyma'r lleoliad perffaith i mi. Bu apêl y cwrs Rheoli Busnes yn gatalydd mawr yn fy mhenderfyniad; yn enwedig gan ei fod yn un o’r cyrsiau mwyaf sefydledig a gynigir gan yr Ysgol Reolaeth. Yn yr un modd, roedd y cwrs wedi’i achredu fel un o’r rhai mwyaf hyblyg yn y maes ar draws y Deyrnas Unedig, trwy’r amrywiaeth o ddewisiadau modiwlau o ddisgyblaethau arbenigol megis cyllid neu wyddor reolaeth, sy’n fy ngalluogi i deilwra fy nghwrs i fy nyheadau proffesiynol ar gyfer y dyfodol.

Mae fy mhrofiad i fel myfyriwr israddedig hyd yma yn Abertawe wedi bod yn wych. Rwyf wedi cael blas ar fywyd normal, o dan y cyfnod clo, yn ogystal â’r normal newydd o fewn y Brifysgol gan dderbyn y cyfle i fwynhau'r ddinas a beth sy’n gwneud bod yn fyfyriwr yma’n arbennig yn ei ogoniant llawn.

Mae’r profiad o gael bod yn y gymuned Gymraeg yma wedi bod yn anhygoel. Er ein bod yn llai mewn maint o gymharu â'r prifysgolion eraill yng Nghymru, mae yna ryw fath o ymdeimlad ac undod teuluol yma. Un o’r prif gyfleoedd rwyf wedi cael drwy fod yn aelod o’r Gymdeithas Gymraeg yw’r digwyddiadau rhyng-golegol blynyddol, sydd yn gyfle gwych i bob prifysgol yng Nghymru ddod at ei gilydd. Yn ychwanegol at hyn, un o’r cyfleoedd rwy'n fwyaf balch o fod wedi gallu ei gael a bod yn rhan ohono oedd bod yn un o’r grŵp wnaeth greu Neges Heddwch ac Ewyllys Da'r Urdd 2021. Roedd cael bod yn rhan o’r neges yn fythgofiadwy.