Chido Ranganayi o flaen y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae

Chido Ranganayi

Gwlad:
Zimbabwe
Cwrs:
BSc Cyfrifeg a Chyllid

Pam ddewisais di Brifysgol Abertawe?

Roedd Prifysgol Abertawe ar frig fy rhestr oherwydd roedd yn ticio cynifer o focsys. Ar lefel bersonol a ffordd o fyw, roedd cynifer o bethau yn apelio ataf. Mae'r campws mor agos at draeth hardd, derbyniais negeseuon cyfeillgar a chefnogol yn ystod y broses cyflwyno cais a chlywais bethau gwych gan ffrind a oedd wedi astudio yno hefyd.

Ar lefel academaidd, roedd ei safle yn y tablau o’r prifysgolion gorau wedi fy syfrdanu. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Brifysgol wedi mynd o nerth i nerth.

Roeddwn mor falch o dderbyn yr Ysgoloriaeth Rhagoriaeth i astudio yn y Brifysgol hefyd.

Pa bethau yn y Brifysgol rwyt ti'n dwlu arnynt?

Mae wedi cynnig cynifer o gyfleoedd i mi yn ogystal a'm hastudiaethau. Rwyf mor falch o fod yn uwch fyfyriwr llysgennad lle rwyf yn cefnogi darpar fyfyrwyr drwy ateb eu cwestiynau yn ystod ymweliadau â'r Brifysgol a Diwrnodau Agored. Rwyf hefyd yn rhan o'r Gymdeithas Buddsoddi a Chyllid a'r Undeb Cristnogol; mae llawer o gyfleoedd i gwrdd â phobl o'r un meddylfryd.

Rwyf hefyd yn un o Flogwyr swyddogol Prifysgol Abertawe sy'n llawer o hwyl. Yn ogystal â bod yn brofiad gwych, mae cofnodi fy nghyfnod yn y Brifysgol hefyd yn ffordd o gadw'r holl atgofion rwyf yn eu gwneud yn ystod fy nghyfnod yma. 

Pa rannau o dy gwrs rwyt ti'n hoffi?

Mae'r staff yn hynod gefnogol a bob amser ar gael i roi cymorth. Mae amrywiaeth y modiwlau hefyd yn wych, sy'n fy ngalluogi i ganolbwyntio ar yr hyn sydd o ddiddordeb i mi. Yn benodol, rwy'n mwynhau'r modiwl Entrepreneuriaeth sy'n helpu i reoli Eve Zimbabwe.

Mae'r cwrs yn wych o ran cyfuno enghreifftiau o'r byd go iawn â damcaniaeth, sy'n fy ngwneud yn hyderus o ran camu i'r byd gwaith.

Mae gallu gwneud blwyddyn mewn diwydiant fel rhan o'm gradd hefyd yn gyfle anhygoel. Mae gweithio mewn busnes am flwyddyn, fel rhan o'm hastudiaethau wedi bod yn brofiad hynod werthfawr ac ni fyddwn i wedi gallu gwneud hyn heb ddilyn y llwybr gradd hwn.