Beth yw eich maes ymchwil?

Rwy'n ymchwilio i gemeg synthetig a meddyginiaethol a ddefnyddir ar gyfer imiwnotherapi canser. Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar foleciwlau sy'n gallu actifadu'r system imiwnedd i adnabod tiwmorau ac ymosod arnyn nhw’n well .Yn y bôn, rhoi "signal" moleciwlaidd i'r corff i frwydro yn erbyn canser yn fwy effeithiol.

Sut datblygodd eich diddordeb yn y maes hwn?

Tyfodd fy angerdd am y maes hwn wrth i mi archwilio'r croestoriad rhwng cemeg a bioleg. Sbardunodd fy astudiaethau israddedig mewn synthesis organig, dylunio cyffuriau, a bioleg foleciwlaidd fy chwilfrydedd ynghylch sut y gall moleciwlau ryngweithio â'r corff i drin clefydau. Yn ystod fy ngradd Meistr mewn Cemeg Fferyllol, ymchwiliais yn ddyfnach i ddarganfod a fformiwleiddio cyffuriau, tra gwnaeth profiad ymarferol mewn labordy diagnostig meddygol yn Sri Lanka ddangos i mi effaith gwyddoniaeth yn y byd go iawn. Denodd ymchwil i ganser fy sylw yn arbennig – ei chymhlethdod, ei natur frys, a’i photensial i wneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau cleifion yw’r hyn sy’n fy ysgogi bob dydd.

Sut daethoch chi i weithio ym Mhrifysgol Abertawe?

Des i i Brifysgol Abertawe i ddilyn PhD mewn Cemeg Feddyginiaethol oherwydd ei hamgylchedd ymchwil cryf a'i dull rhyngddisgyblaethol o ymdrin â chemeg a meddygaeth. Gwnaeth cyfleusterau rhagorol, ymchwilwyr profiadol, a diwylliant cydweithredol Abertawe ei gwneud yn lle perffaith i ddatblygu fel gwyddonydd. Roedd y cyfle i weithio ar y prosiect hwn yn arbennig o gyffrous, gan ei fod yn cyd-fynd yn uniongyrchol â fy nod hirdymor o hyrwyddo cemeg feddyginiaethol a datblygu therapïau gwell ar gyfer clefydau cymhleth.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni? 

Fy mhrif nod yw helpu i ddatblygu triniaethau canser mwy effeithiol drwy wella'r ffordd y mae'r system imiwnedd yn adnabod ac yn ymosod ar diwmorau. Y tu hwnt i hynny, rwy'n ceisio gwella ein dealltwriaeth o lwybrau imiwnedd a sut y gellir eu targedu gan ddefnyddio moleciwlau bach. Gall hyd yn oed datblygiadau arloesol bach yn y maes hwn arwain therapïau yn y dyfodol, ac mae bod yn rhan o'r cynnydd hwnnw yn gyffrous ac yn hynod werth chweil.

At ba ddibenion ymarferol gallai eich ymchwil gael ei defnyddio?

Mae cymwysiadau ymarferol fy ymchwil yn canolbwyntio ar therapi canser a datblygu cyffuriau. Os byddant yn llwyddiannus, gallai'r moleciwlau neu'r strategaethau rwy'n eu datblygu wella imiwnotherapi, yn enwedig ar gyfer tiwmorau sy'n gwrthsefyll triniaethau presennol. Yn y tymor hir, gallai'r gwaith hwn arwain at greu cyffuriau newydd a therapïau cyfunol mwy effeithiol, a gwella canlyniadau i gleifion yn y pen draw. Y tu hwnt i ganser, gallai'r ddealltwriaeth newydd a gafwyd helpu ymchwilwyr i ddeall llwybrau signalu imiwnedd yn well, ac archwilio triniaethau ar gyfer clefydau eraill hefyd.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?

Ar ôl fy PhD, rwy'n gobeithio parhau i weithio ym maes cemeg feddyginiaethol a darganfod cyffuriau, gan gyfrannu at ymchwil sy'n pontio cemeg a meddygaeth er mwyn mynd i'r afael â heriau iechyd mawr.

Hanes gyrfa

Ar ôl cwblhau fy astudiaethau israddedig, gweithiais am flwyddyn fel Cynorthwy-ydd Addysgu ac Arweinydd Tîm ym Mhrifysgol Ruhuna, gan gefnogi addysgu mewn labordy, symleiddio cysyniadau gwyddonol cymhleth, a chynnal amgylchedd labordy diogel ac effeithlon. Yna treuliais dair blynedd ym maes diagnosteg feddygol fel Gwyddonydd a Rheolwr Labordy mewn cwmni meddygol preifat, gan ennill profiad ymarferol mewn microbioleg, haematoleg, bioleg foleciwlaidd, dadansoddi biocemegol, a phrofion PCR ar gyfer COVID-19. Ar hyn o bryd, rwy'n Arddangoswr yn yr Adran Gemeg ym Mhrifysgol Abertawe, gan gyfuno fy mhrofiad ymchwil ac addysgu i fentora myfyrwyr a chefnogi dysgu yn y labordy.