Pranjal Jain

Beth yw eich maes ymchwil?
Mae fy ymchwil yn eistedd ar y groestoriad rhwng Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron, rheoli gwybodaeth a chynaliadwyedd. Yn benodol, rwy'n astudio sut i gipio gwybodaeth ddealledig: yr arbenigedd reddfol sy'n anodd ei fynegi y mae ymarferwyr medrus yn ei ddatblygu drwy brofiad, mewn amgylcheddau atgyweirio cymunedau. Rydw i'n gweithio gyda chaffis trwsio gwirfoddol ar draws de Cymru, gan archwilio sut y gallwn ni ddylunio offer sy'n helpu trwswyr arbenigol i gofnodi eu rhesymeg a'r penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud, fel nad yw'r wybodaeth hon yn mynd ar goll pan fyddant yn gadael.

Sut datblygodd eich diddordeb yn y maes hwn?
Rydw i wastad wedi cael fy nenu at sut mae pobl yn defnyddio technoleg mewn amgylcheddau yn y byd go iawn, yn enwedig mewn cyd-destunau lle nad yw pethau'n gweithio fel y disgwylir. Yn ystod fy ngradd Meistr mewn Dyluniad sy'n Canolbwyntio ar Bobl, ymchwiliais i daliadau digidol a phreifatrwydd ymhlith masnachwyr incwm isel yn India: gwaith a ddangosodd i mi nad yw technoleg yn gweithio i'r bobl y mae i fod i'w gwasanaethu yn aml. Gwnaeth y profiad hwnnw lywio fy niddordeb mewn dylunio gyda chymunedau, nid ar eu cyfer yn unig. Pan ddes i ar draws caffis trwsio cymunedol, gwelais enghraifft bwerus o weithgarwch cynaliadwyedd ar lawr gwlad, a her hynod ddiddorol: sut rydych chi'n diogelu arbenigedd y mae'n anodd i’r arbenigwyr eu hunain ei esbonio?

Sut daethoch chi i weithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Ymunais i â Phrifysgol Abertawe fel ymchwilydd PhD drwy Ganolfan Hyfforddiant Doethurol yr EPSRC mewn Gwella Rhyngweithiadau a Chydweithrediadau Dynol â Systemau a Yrrir gan Ddata a Deallusrwydd. Mae fy ymchwil wedi ei chefnogi gan BT Labs, a oedd yn canolbwyntio ar gipio gwybodaeth mewn telathrebu yn wreiddiol. Dros amser, symudodd fy ngwaith maes i gaffis trwsio cymunedol: cyd-destun lle mae'r her o gipio gwybodaeth ddealledig yr un mor bwysig ond yn fwy hygyrch ar gyfer ymchwil gyfranogol.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni? 
Rydw i eisiau helpu mentrau trwsio cymunedol i ddod yn fwy cynaliadwy ac i fod yn fentrau y gellir eu hehangu. Mae caffis trwsio yn lleihau e-wastraff ac yn meithrin sgiliau lleol, ond mae’n anodd iddynt gadw gwybodaeth pan fydd gwirfoddolwyr profiadol yn symud ymlaen. Fy nod yw dylunio offer sy'n cipio rhesymeg trwsio: y symptomau a welir, y rhagdybiaethau a roddir ar waith, yr hyn a weithiodd, yr hyn nad oedd yn llwyddiannus, gan greu llyfrgell fyw y gall trwswyr y dyfodol ddysgu ganddi. Yn y pen draw, gobeithiaf ddangos y gall Deallusrwydd Artiffisial a thechnoleg gefnogi arbenigedd dynol yn hytrach na chymryd ei le.

At ba ddibenion ymarferol gallai eich ymchwil gael ei defnyddio?
Y diben mwyaf uniongyrchol yw offeryn rheoli gwybodaeth symudol ar gyfer caffis trwsio. Byddai arbenigwyr yn cofnodi eu proses ar gyfer datrys problemau; byddai dechreuwyr yn dysgu drwy adolygu'r olion rhesymu hyn. Y tu hwnt i drwsio, gallai'r ymagwedd fod yn berthnasol i unrhyw faes lle mae gwybodaeth ddealledig yn bwysig: gofal iechyd, diwydiannau crefft, gwaith cynnal a chadw. Rydw i hefyd yn archwilio sut gall yr ymchwil hon lywio polisi hawl i drwsio, drwy arddangos beth gall trwsio dan arweiniad y gymuned ei gyflawni pan gaiff y cymorth cywir.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Ar hyn o bryd, rydw i'n cynnal gwaith maes mewn caffis trwsio ym Mryste ac yn Abertawe, gan gynnwys digwyddiadau cyhoeddus megis "Peidiwch â'i daflu, trwsiwch ef! Trwsio offer electroneg gydag AI." Nesaf, rydw i'n bwriadu cyd-ddylunio a pheilota offeryn prototeip gyda chymunedau trwsio. Rydw i hefyd yn bwriadu ehangu’r gwaith hwn: cysylltu rhwydweithiau trwsio ar draws y Gogledd a'r De Byd-eang, ac archwilio sut mae arbenigedd trwsio yn amrywio ar draws diwylliannau a chyd-destunau.

Hanes gyrfa

Cyfnod Rôl Sefydliad Lleoliad
2023 - Presennol  Ymchwilydd PhD Prifysgol Abertawe Y Deyrnas Unedig
2021 - 2022 Myfyriwr MSc Prifysgol Abertawe Y Deyrnas Unedig
2019 - 2020 Cyd-sylfaenydd ac Arweinydd Gweithrediadau theUXWhale Delhi Newydd, India
2017 - 2019 MDes mewn Dyluniad sy'n Canolbwyntio ar Bobl Sefydliad Celf, Dylunio a Thechnoleg Srishti Bangalore, India
2017 Cydymaith Ymchwil Menter Ymchwil Hunaniaeth Ddigidol, Ysgol Fusnes India Hyderabad, India
2016 - 2017  Cydymaith Ymchwil Menter Dyfodol Cyllid, Dvara Research Chennai, India
2015 – 2016 Hyfforddai Peiriannydd Graddedig Idea Cellular Ltd India
2011 - 2015  BTech mewn Electroneg a Chyfathrebu VIT University Vellore, India

Arweinyddiaeth a Gwasanaeth Academaidd

Cyfnod Rôl Sefydliad
2018 - 2019 Cadeirydd Sefydlu Cangen SIGCHI Srishti (cangen leol weithgar gyntaf SIGCHI yn India)
2023 - Presennol Cadeirydd Cangen Myfyrwyr IEEE Abertawe
2019 Cadeirydd Cysylltiol, Late-Breaking Work Cynhadledd ACM CHI
2021 Adolygydd Papurau Cynhadledd ACM CHI
2019 Adolygydd Papurau Cynhadledd IndiaHCI