NEWYDD AR GYFER DECHRAU YN 2026-27

Canolfan EPSRC ar gyfer Hyfforddiant Doethurol mewn Sgiliau Dyfodol y Diwydiant Lled-ddargludyddion

Hyd at 6 Ysgoloriaeth ag Ariantal Uwch (MYFYRWYR CYMWYS O'R DU YN UNIG) mewn Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg Lled-ddargludyddion, yn gweithio gyda rhai o gwmnïau lled-ddargludyddion y byd!

Crynodeb o'r Cyfle:

Mae hyd at 6 ysgoloriaeth PhD ar gael i ddechrau yn y flwyddyn academaidd 2026-27 (Hydref 2026 – Gorffennaf 2027) fel Carfan gyntaf Canolfan EPSRC newydd ar gyfer Hyfforddiant Doethurol yn Sgiliau Dyfodol Diwydiant Lled-ddargludyddion y DU dan arweiniad Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Leeds. Manylion yr ysgoloriaethau PhD:

  • 4 blynedd gydag ariantal uwch drwy Raglen TechExpert Llywodraeth y DU gwerth £10,000, sy'n uwch na chyfradd gyflog sylfaenol UKRI ac â chymorth hael Grant Hyfforddiant Ymchwil;
  • maent wedi'u strwythuro'n hyblyg fel 4 blynedd o ymchwil gyda hyfforddiant sgiliau ymarferol parhaus mewn perthynas â lled-ddargludyddion, ac yn arbennig o addas i fyfyrwyr o lwybrau addysg anhraddodiadol fel prentisiaid â chymhwyster gradd neu'r rhai hynny sy'n ceisio symud sector o ddiwydiant cysylltiedig arall neu aros yn gyflogedig wrth ddilyn eu PhD;
  • y lleoliad fydd cyfleuster ymchwil ac arloesi lled-ddargludyddion newydd o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe (Y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol y buddsoddwyd £55m ynddi);
  • cysylltiadau agos â byd diwydiant, gyda phrosiectau ymchwil wedi'u cyd-greu a chyfle i dreulio amser sylweddol ar safleoedd diwydiannol.

Rhestr o'r prosiectau a gynigir:

  • Prosiect 1: Deunyddiau bwlch band eang iawn (galiwm ocsid a galiwm ocsid alwminiwm) ar gyfer optoelectroneg uwchfioled ac electroneg pŵer caled ymbelydredd
  • Prosiect 2:  Gweithgynhyrchu crisialau lled-ddargludyddion o ansawdd uchel yn y gofod
  • Prosiect 3: Nodweddu a mesureg deunyddiau a dyfeisiau bwlch band eang iawn (hyd at ddwy ysgoloriaeth)
  • Prosiect 4:  Deunyddiau a dyfeisiau ar gyfer cydrannau nitrid galiwm fertigol
  • Prosiect 5:  Prosesu deunyddiau a dyfeisiau lled-ddargludyddion mewn modd cynaliadwy
  • Prosiect 6:  Lled-ddargludyddion moleciwlaidd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o optoelectroneg

Cysylltu Rhian Jones Rheolwr Portffolio CISM