Yr Adroddiad Ymchwil terfynol llawn

Gallwch ddarllen yr Adroddiad Ymchwil terfynol llawn ar gyfer y Gymdeithas dros Ymchwil i Addysg Uwch (SRHE) yma.

Awduron:

Yr Athro Cysylltiol Debbie Jones, Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton

Yr Athro Cysylltiol Mark Jones, Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Cydnabyddiaeth:

Hoffem ddiolch i’r SRHE am gefnogi’r prosiect hwn.

Ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosib oni bai am yr Include Hub a weithiodd mewn partneriaeth â ni i archwilio’r maes hwn.

Rydym yn cadw ein cydnabyddiaeth olaf a phwysicaf i aelodau’r Include Hub a rannodd eu profiadau o addysg – a oedd yn aml yn bersonol ac yn boenus – â ni i’n helpu i ddeall yn well sut mae angen i addysg uwch addasu i fod yn amgylchedd gwirioneddol gynhwysol ar gyfer dysgu effeithiol.

Nodau’r astudiaeth hon:

Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio rôl addysg uwch wrth gefnogi dyheadau i ymatal rhag ymddygiad troseddol, mewn ardal leol iawn, sef Abertawe. Wrth gyflawni’r nod cyffredinol hwn, roedd gan y prosiect nod arall, sef archwilio defnyddio Mapio Naratif Darluniadol fel offeryn ymchwil i gasglu data a grymuso’r rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil.

Cyd-destun cefndirol

Yn aml, pan fydd pobl ynghlwm wrth batrwm troseddu neu mewn perygl troseddu, mae’n gynyddol anodd atal y cylch ac oherwydd hyn, ynghyd â ffactorau eraill, megis cywilydd a gwahaniaethu, mae’n anodd dod o hyd i gyfleoedd i gyflawni newid cadarnhaol a hybu uchelgais (y Weinidogaeth Cyfiawnder, 2010: Bottoms a Shapland, 2011). Fodd bynnag, mae astudiaethau blaenorol wedi nodi bod astudio mewn amgylchedd addysg uwch yn gallu bod yn ‘sbardun newid’ pwysig gan ei fod yn darparu datblygiad cadarnhaol cyfrifoldeb personol drwy feithrin rhwydweithiau cymdeithasol cadarnhaol newydd, hunaniaethau ‘anhroseddol’ yn ogystal â gwybodaeth a sgiliau (Lockwood et al, 2012; Runnell, 2017). Felly, er y cydnabyddir manteision addysg uwch fel llwybr i ymatal, mae’r rhai sy’n gweithio gyda phobl mewn perygl troseddu/aildroseddu yn nodi y gall addysg uwch fod yn amgylchedd neilltuedig nad yw’n apelio llawer at y rhai â chefndiroedd troseddu (Ymddiriedolaeth Addysg Carchar, 2017). Ar ben hyn, cafwyd galwad unwaith eto y dylai ehangu mynediad, mewn cyd-destun Cymreig, fod yn ystyrlon ac archwilio posibiliadau o integreiddio’r rhai ar ymylon cymdeithas (Evans et al, 2017).

Felly, amcan yr astudiaeth beilot hon oedd ystyried sut gall addysg uwch, fel sefydliad, a dyhead am addysg uwch, fod yn broses ddefnyddiol a phwerus i gefnogi dargyfeirio ac ymatal rhag troseddu. Dylid nodi bod ymchwil flaenorol i’r pwnc hwn wedi canolbwyntio ar rôl addysg mewn carchar ac felly, yr astudiaeth hon oedd yr un gyntaf o’i math yng Nghymru am iddi geisio archwilio rôl addysg uwch yng nghyd-destun atal troseddu/aildroseddu mewn lleoliad cymunedol.

Canfyddiadau a Negeseuon Allweddol

Er mai canfyddiadau cychwynnol yw’r rhain, ar yr adeg hon, mae’r data yn awgrymu fel a ganlyn:

  • Os yw addysg uwch i gael ei hystyried yn ‘sbardun newid’ ystyrlon, bydd angen cydnabod cymhlethdod yr anghenion sylfaenol (tai, camddefnyddio sylweddau, problemau gyda pherthnasoedd, iechyd meddwl) darpar fyfyrwyr unigol.
  • Mae angen gweledigaeth newydd i ddeall sut mae prifysgolion yn cefnogi’r darpar ddysgwyr hyn gyda’u dyheadau am addysg uwch. Fel man cychwyn, gall hynny olygu bod y rhai sydd â chyfrifoldeb am ‘ehangu mynediad’ yn ymestyn allan i sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sydd mewn perygl troseddu.
  • Er bod llawer wedi cael profiadau addysgol gwael a diffyg cyfleoedd yn y blynyddoedd cynnar, mynegodd y cyfranogwyr ddymuniad i gael mynediad at addysg uwch ond roedd meddwl am fynd i mewn i sefydliad yn gwneud iddynt deimlo’n annifyr. Mynegodd eu lleisiau ddymuniad am fath newydd o addysg uwch sy’n canolbwyntio ar brofiad wedi’i deilwra mwy i’r unigolyn a mwy penodol i’w profiad personol yn eu lleoliad yn y gymuned. Yn ogystal, byddai’r myfyrwyr yn cael eu cefnogi drwy’r broses hon gan weithwyr sy’n deall eu cefndir a’u hanghenion penodol a goblygiadau hynny, fel na fyddent yn teimlo dan fygythiad neu fod pobl yn craffu arnynt.
  • I lawer o’r cyfranogwyr, dechreuodd eu profiadau cadarnhaol o addysg yn ystod cyfnod yn y carchar. Felly, mae hyn yn cynnig cyfle i garchardai weithio’n agos gyda phrifysgolion lleol i adeiladu ar y profiad cadarnhaol hwn; mae hefyd yn gyfle i ‘fyfyrwyr carchar’ gael eu cyflwyno i addysg uwch a phrofiad ohoni mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
  • Rhywbeth arall a amlygwyd gan yr astudiaeth oedd yr ymdeimlad o gywilydd ar gyfer y grŵp hwn o ddarpar ddysgwyr. Boed hynny’n wir neu wedi’i ddychmygu, roedd pawb a astudiodd yn y brifysgol yn ystod dedfryd carchar, ar bob lefel, wedi profi cywilydd.
  • Mae gan ddulliau creadigol ac ‘adrodd straeon’, megis ‘Mapio Naratif Darluniadol’ y potensial i gefnogi grwpiau wedi’u hymyleiddio i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Mae hefyd yn cefnogi ymagwedd gynhwysol a moesegol at gasglu data ac mae’n bosib hefyd y gallai gynorthwyo’r rhai sydd mewn perygl aildroseddu i fesur eu cynnydd tuag at ymatal.

Casgliad:

Felly, mae’n amlwg o’r astudiaeth beilot hon, bod addysg uwch yn gallu bod yn rhan o’r fframwaith ymatal.  Fodd bynnag, mae llawer i’w wneud o hyd. Yn wir, mae’r ymchwil hon yn cefnogi safbwynt cyfredol yr Ymddiriedolaeth Addysg Carchar (2017) sy’n dadlau y gall addysg uwch deimlo’n amgylchedd digroeso i’r rhai â chofnod troseddol.  Mae hefyd yn amlwg o’r astudiaeth hon bod y cyfranogwyr yn teimlo drwgdybiaeth ddofn tuag at brifysgolion fel sefydliadau elît a bod angen gwneud llawer mwy i drawsnewid y ddelwedd o amgylchedd neo-ryddfrydol sy’n canolbwyntio ar gau pobl allan ac ar elw ariannol a’u troi’n lleoedd sy’n grymuso, drwy ddysgu a thwf cymdeithasol gan gefnogi cyflogadwyedd a chyfleoedd bywyd gwell, ac yn yr achos hwn, ymatal hirdymor rhag troseddu.