Cymuned sy'n ffynnu

Mae’r Ganolfan Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil i faterion troseddu a chyfiawnder yn Ysgol Reolaeth Hillary Rodham Clinton. Gyda chefnogaeth gwaith y gymuned fywiog o ymchwilwyr academaidd a myfyrwyr ôl-raddedig, mae'r Ganolfan yn ymdrechu i gynhyrchu allbynnau dylanwadol o safon ar draws amrywiaeth eang o bynciau. Mae ein gwaith yn adlewyrchu ymagwedd feirniadol a rhyngddisgyblaethol sy'n creu effaith yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ehangach ac yn rhyngwladol.

Mae ein meysydd presennol o ymchwil yn cynnwys:

  • Troseddeg a Hawliau Dynol
  • Cyfiawnder Ieuenctid
  • Hawliau plant
  • Gwaith rhyw
  • Cam-drin ac ecsbloetiaeth rywiol
  • Carchardai, diwygio cosbol a'r gosb eithafol
  • Polisi Cyffuriau

Yn ychwanegol at ymchwil a chyhoeddi, mae'r Ganolfan yn ymroddedig i wella'r amgylchedd dysgu ac addysgu yn  Ysgol y Gyfraith.  Rydym yn trefnu seminarau ymchwil rheolaidd, trafodaethau paneli a grwpiau adborth, derbyn siaradwyr gwadd a meithrin perthnasoedd gweithio â'r llywodraeth a phartneriaid cymdeithas sifil yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol.