Mitsuku yn ennill Gwobr Loebner 2019 a'r Sgyrsfot gorau yn AISB X

Am y bedwaredd flynedd yn olynol, mae Mitsuku, Steve Worswick wedi ennill Gwobr Loebner am y sgyrsfot mwyaf dynol ei natur yn y gystadleuaeth. Dyma'r pumed tro i Steve ennill Gwobr Loebner. Y Wobr Loebner yw'r gystadleuaeth Profi-Turing mwyaf hirhoedlog y byd, sydd wedi ei threfnu gan AISB, cymdeithas Deallusrwydd Artiffisial hynaf y byd, ers 2014.

Am y tro cyntaf eleni, cafodd cystadleuaeth y sgyrsfot ei hymgorffori mewn digwyddiad allanol gyda'r cyhoedd, AISBX: Creadigrwydd yn cwrdd â'r Economi, a gynhaliwyd yn y Ffowndri Gyfrifiadol ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, o'r 12-15 Medi, gan ddenu dros 300 o ymwelwyr.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys gweithdai ar sgyrsfotiau ar gyfer dros 200 o ddisgyblion o 6 ysgol yn Ne Cymru, gydag arddangosfa gelf gyhoeddus, arddangosfa sgyrsfot, a rhaglen waith ar systemau Deallusrwydd Artiffisial sgyrsiol a welodd gynulleidfa ryngwladol yn cynnwys pobl o UDA, Ynys Jersey, a'r DU. Roedd arddangosfa'r sgyrsfotiau yn arddangos 17 math o Ddeallusrwydd Artiffisial gan ddatblygwr o wledydd megis y Swistir, Fietnam, UDA, Yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, DU, Ynys Jersey, Yr Eidal, a Sbaen. Roedd yr arddangosfa gelf yn dangos gwaith a gosodiadau diddorol gan artistiaid rhyngwladol megis John Gerrard, Gene Kogan, Daniel Berio, Simon Colton, Cuan McMurrough, a Disnovation.org.

O graffiti digidol, penawdau newyddion wedi syntheseiddio, a gweithiau pryfoclyd ar yr hinsawdd ac ymgorfforiad, llwyddodd yr arddangosfa i gyflawni ei nod o annog trafodaeth ymhlith y gynulleidfa a threfnwyr y digwyddiad, a gafodd ei noddi ar y cyd gan CHERISH.DE ac AISB.