Academydd y Ffowndri Gyfrifiadol yn cael ei enwebu am wobr arbennig BAFTA Cymru

Mae Dr Sean Walton, academydd yn Ffowndri Gyfrifiadol Prifysgol Abertawe, wedi'i enwebu am wobr British Academy Cymru.

Enwebwyd Dr Walton, Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg, am ddatblygu'r gêm fideo, Cycle 28, fel rhan o'r tîm yn Pill Bug Interactive.

Mae Gwobrau British Academy Cymru yn dathlu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu o fewn y meysydd ffilm, gemau a theledu yng Nghymru. Eleni, cafwyd y nifer uchaf erioed o bobl yn ceisio amdani, gan arwain at 19 o enwebeion newydd.

Dywedodd Dr Walton: "Rwyf wedi bod yn gwneud gemau fideo ers tua 12 mlynedd, ond rwyf wedi bod yn dylunio gemau ar bapur yn llawer hirach na hynny. Roedd Cycle 28 yn seiliedig ar syniad y brasluniais am gêm ar bapur graff pan oeddwn yn 14 oed!

Mae dwy ochr i Cycle 28, ar un ochr mae'n gêm arcêd glasurol â thro modern, ac ar yr ochr arall mae'n naratif i chi ei ddadorchuddio. I bobl sy'n chwarae gemau arcêd mae'n adnabyddwy fel clôn o Asteroids, ond pan rydych yn ei chwarae gallwch deimlo'r gwahaniaeth."

Ar wahân i'w addysgu a dylunio gemau, mae Dr Walton hefyd yn cynnal sesiynau estyn allan i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn Addysg Uwch. "Credaf mai trwy ddysgu sut i ddylunio gemau, gallwch ddysgu llawer o sgiliau gwahanol, o fathemateg a datrys problemau i greadigedd a sut i addysgu'n fwy effeithiol, hyd yn oed."

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn y 28ain seremoni a fydd yn digwydd ar 13eg Hydref 2019 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Mae Cycle 28 (sydd ar gael ar gyfrifiadur a Nintendo Switch™) yn un o dri theitl sydd wedi'u henwebu am y gêm orau.

 

Dolenni:

Rhestr lawn o enwebiadau

http://www.bafta.org/media-centre/press-releases/nominations-announced-for-the-2019-british-academy-cymru-awards

Gwybodaeth ynglŷn â Cycle 28

https://www.pillbug.zone/cycle-28/

Hysbyslun YouTube https://www.youtube.com/watch?v=I13n4nIiuDY