Mae pawb yn Abertawe yn creu'r momentwm ar gyfer llwyddiant

Staff delwedd y tu allan i'r abaty

Canlyniad

Er mwyn cyflawni ein huchelgais, mae angen arnom weithlu â'r sgiliau amrywiol angenrheidiol i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni rhagoriaeth mewn ymchwil, addysgu, dysgu a phrofiad ehangach y myfyrwyr, ac i fod yn bwerdy ar gyfer economi'r rhanbarth ac yn rhyngwladol.

Cynlluniwyd y Cynllun Llwybrau Gyrfa Academaidd (ACP) i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed hynny mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth neu arloesedd ac ymgysylltiad, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo'n briodol.

Diben yr ymagwedd hon yw cefnogi pob aelod o’r staff academaidd i weithio i'w lawn botensial. Cynlluniwyd meini prawf y Llwybrau Gyrfa Academaidd er mwyn bod yn dryloyw ac yn deg ac er mwyn arddangos y trothwyau.

Meysydd a Meini Prawf

Mae yna 3 maen prawf craidd y mae'n rhaid eu cynnal trwy gydol pob un o’r graddau academaidd ddarlithydd, Uwch Ddarlithydd, Athro Cyswllt ac Athro (graddau 8-11):

  • Rheoli Craidd
  • Addysgu Craidd
  • Ymchwil Craidd

Mae yna 3 maes academaidd uwch:

  • Addysgu ac Ysgolheictod Uwch
  • Ymchwil Uwch
  • Arloesedd ac Ymgysylltiad Uwch

Meini Prawf

Mae gan bob maen prawf ym mhob gradd enghreifftiau wedi’u diffinio’n glir a Lefelau Perfformiad Dangosol. Lle mae mwy nag un Lefel Perfformiad Dangosol, nodir blaenoriaeth strategol y Brifysgol mewn print trwm.

O ystyried ystod y gweithgarwch academaidd, ni all y Lefelau Perfformiad Dangosol fod yn derfynol ond byddant yn gweithredu fel canllaw.

Llwybrau Gyrfa Academaidd

Meini Prawf Llwybrau Gyrfa Academaidd Athro (P)

Meini Prawf Llwybrau Gyrfa Academaidd Athro Cyswllt (AP)

Meini Prawf Llwybrau Gyrfa Academaidd Uwch Ddarlithydd-(SL)

Meini Prawf Llwybrau Gyrfa Academaidd Darlithydd (L)

 

Cysylltiadau defnyddiol

Os oes gennych ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni:

 Sian Cushion

 Brian Knaggs

 Aimee Thomas