Dirprwy Is-ganghellor, Ymchwil, Arloesi a Menter
Mae Siwan Davies yn Athro Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Abertawe, gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn ymchwilio i newid hinsawdd yn y gorffennol gan ddefnyddio dyddodion lludw folcanig a gedwir yng nghreiddiau iâ'r Ynys Las a'r Antarctig. Mae ymchwil Siwan wedi cael ei hariannu gan Gyngor Ymchwil Ewrop, NERC, ac yn fwyaf diweddar drwy Uwch-gymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Leverhulme y Gymdeithas Frenhinol.
Dyfarnwyd Gwobr Philip Leverhulme, Gwobr Ysgolhaig Fulbright a medal Frances Hoggan Cymdeithas Ddysgedig Cymru iddi. Bu Siwan yn aelod o is-banel REF2021 ar gyfer uned asesu ‘Daearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol’ a bydd yn gwneud hynny eto ar gyfer REF2029.
Mae Siwan yn Aelod o Gyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn Gadeirydd Grŵp Ymgynghorol Datblygu Ymchwilwyr y Gymdeithas, yn aelod o Bwyllgor Ymchwil ac Addysg Uwch y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol ac yn gyn-aelod o Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ym Mhrifysgol Abertawe, Siwan oedd Pennaeth yr Adran Ddaearyddiaeth, Pennaeth yr Ysgol Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg, a bu’n aelod o Dîm Arweinyddiaeth y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.