Trosolwg
Mae gan yr Athro Stephen Brown PhD mewn meteleg (1986, Prifysgol Abertawe) ac mae wedi treulio ei yrfa yn y gwaith o fodelu prosesu deunyddiau yn gyfrifiannol. Daeth yn Athro mewn Gwyddor Deunyddiau Cyfrifiannol yn 2007.
Ar wahân i brosiectau ymchwil yn y DU gyda gwahanol gydweithwyr diwydiannol (e.e. Rolls-Royce, Tata Steel, Airbus/EADS) mae wedi gweithio cyn hyn ar amrywiaeth o brosiectau wedi’u hariannu gan yr UE yn FP5 (e.e. SmartWeld) ac FP6 (e.e. ALCAS) gan gynnwys cydgysylltu 14 o bartneriaid gweithredol yn y pecyn gwaith ar fodelu deunyddiau cyfrifiannol yn y prosiect IMPRESS FP6 (gwerth y prosiect yn €40miliwn); wedi’i raddio ar y lefel uchaf gan ddau asesydd o'r UE. Prosiect FP7 a gwblhawyd yn ddiweddar (yn ymwneud â modelu a nodweddiadu aml-raddfa ar gyfer problemau breuo hydrogen) oedd 'MultiHy' ac mae Abertawe hefyd yn rhan o'r prosiect FP7 'AMAZE' presennol. Mae'r Athro Brown hefyd yn aelod o'r Panel Gwerthuso Technegol ar gyfer prosiect Metallurgy Europe Eureka a grëwyd yn ddiweddar.
Mae ei ymchwil cydweithredol presennol gyda chwmnïau yn y DU a chwmnïau rhyngwladol yn cynnwys Modelu Elfennau Arwahanol uwch o lifoedd gronynnog, dulliau Meteleiddio Cyfunol ar gyfer darganfod aloeau a Gweithgynhyrchu Ychwanegion cydrannau metelig (modelu ac arbrofi).