Yn ddiweddarach, bu’n gweithio fel Aelod Staff Addysgu (30%) a Chydymaith Ymchwil (70%) yn TUOS (2017-2018). Roedd yn gyfrifol yn bennaf am baratoi a chyflwyno darlithoedd, am gynllunio sesiynau ymarferol yn y labordy ac am asesu adroddiadau modiwlau gradd, MSc ac MEng yn nisgyblaethau Peirianneg Gemegol a Biolegol. Modiwl a addysgir: Bioynni, Elifion Hylif, Moeseg ac Uniondeb Ymchwil. Yn ystod y cyfnod hwn, gweithiodd ar dair Taleb Rhyngweithio Busnes (BIV) a ariannwyd gan Phyconet:
(1) “Characterisation of info-chemical induced EPS from Scenedesmus for sustainable production of bioemulsifiers and biosurfactants” mewn cydweithrediad â TeeGene Biotech Ltd. (Redcar, y DU);
(2) “Efficient cell lysis for extraction of intracellular products from microalgae using pulsed electric field” mewn cydweithrediad â C-Tech Innovation Ltd. (Caer, y DU);
(3) Cyfrannu at ysgrifennu a drafftio’r BIV dan y teitl “Pilot-scale production of eicosapentaenoic acid (EPA) and fucoxanthin in a diatom using a Phyco-FlowTM system” mewn cydweithrediad â Varicon Aqua solutions Ltd. (Caerwrangon, y DU).
Mae gan Rahul brofiad helaeth o dechnoleg omeg (metaboleg a phroteomeg) ac mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar ddatblygu llif gwaith wedi’i optimeiddio ar gyfer triniad algaidd, technegau cyd-feithrin, consortia microbaidd, biotechnoleg micro-algaidd (bioburfeydd), nodweddiadau cemegion gwybodaeth, bioarwynebyddion a bioemwlsyddion microalgaidd, treuliad anaerobig, nodweddiadau gweddillion treuliad anaerobig, adferiad maetholion ac adfer adnoddau.