Trosolwg
Mae Elen Davies yn Uwch Swyddog Llyfrgell ym Mhrifysgol Abertawe sy'n darparu cefnogaeth llyfrgell ddwyieithog. Mae hi'n darparu cefnogaeth a hyfforddiant i staff a myfyrwyr ar amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys defnydd effeithiol o gronfeydd data ar-lein, dod o hyd i ddata ac ystadegau, sgiliau cyfeirio ac adolygiadau systematig. Mae Elen hefyd yn Llyfrgellydd siartredig, yn aelod o Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Proffesiynol Llyfrgell a Gwybodaeth (CILIP) ac yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch (FHEA).