Dr Osian Elias

Dr Osian Elias

Darlithydd Er Anrhydedd, Science and Engineering

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Osian Elias yn ddarlithydd daearyddiaeth ddynol â diddordebau eang yn naearyddiaeth gymdeithasol a gwleidyddol ac yng ngwaith rhyngddisgyblaethol. Mae diddordebau ymchwil Osian yn canolbwyntio ar iaith, cynaliadwyedd a gwyddor ymddygiadol. Mae ganddo ddiddordeb penodol ym mholisi ac yn nhraweffaith ymchwil. Mae Osian wedi cyflwyno ei waith ymchwil ar draws y DG ac Ewrop, gan ymwneud mewn ystod o gyd-destunau disgyblaethol, gan gynnwys gwyddor ymddygiadol, cymdeithaseg a pholisi iaith a daearyddiaeth.

Mae Osian yn rhugl yn y Gymraeg ac yn mwynhau ei gyfraniad addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Ymunodd Osian â Phrifysgol Abertawe yn 2017 ar ol cwblhau ei ddoethuriaeth ar bolisi iaith a gwyddor ymddygiadol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Y tu allan i'r gwaith mae Osian yn seiclwr brwd ac yn aelod ffyddlon o'r Wal Goch.

Meysydd Arbenigedd

  • Cymdeithaseg Iaith
  • Polisi Iaith
  • Gwyddor Ymddygiadol
  • Polisi Ymddygiadol
  • Cynaliadwyedd
  • Ymddygiadau gwyrdd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae diddordebau addysgu Osian yn canolbwyntio ar iaith a chynaliadwyedd, mae'n mwynhau addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac fel pob daearyddwr mae'n hoff iawn o waith maes!

Ymchwil