Yr Athro Nicholas Lavery

Athro, Mechanical Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606873

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
403
Pedwerydd Llawr
Adeilad Gogleddol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

MA (Hons), MSc, PhD, MIMA, Prof Grad IMMM, FHEA
Dr Nicholas Lavery yw Cyfarwyddwr Canolfan Uwch Briodweddau Deunydd (MACH1), a’r academydd sy’n arwain y grwp Ymchwil Gweithgynhyrchu Ychwanegion Abertawe (SAMR) .

Yn fras, mae diddordebau ymchwil Dr Lavery yn canolbwyntio ar ddefnyddio mesuriad priodwedd deunydd, modelu cyfrifiannol ac astudiaethau arbrofol i ddatblygu prosesau a deunyddiau gweithgynhyrchu diwydiannol, gyda rhaglenni i gynnyrch peirianneg o fewn cynnyrch awyrofod, meddygol, modurol ac ynni.
Meysydd ymchwil cyfredol:

  • Gweithgynhyrchu Ychwanegion yn benodol ymasiad powdr laser (PBF)
  • Profi Priodweddau Deunydd Trwybwn Uchel (MACH1)
  • Modelu cyfrifiannol o brosesau gweithgynhyrchu amrywiol (Gweithgynhyrchu Haen Ychwanegion, Allwthiad, Gwasgu Powdr Isostatig, Sintro …)
  • Prototeipo Aloi Cyflym
  • Asesu Cylch Bywyd

Wedi treulio amser yn y byd academaidd a diwydiannol, rydw i wedi sefydlu ystod eang o gydweithrediad ymchwil rhyngwladol ac fe adlewyrchir hyn gan y nifer o wahoddiadau i ddatblygu a chymryd rhan mewn amryw o gynigion EC FP7/H2020.
Rydw i’n adolygydd nodedig cydnabyddedig i’r cyhoeddiadau canlynol: Journal of Alloys and Compounds, the Journal of Additive Manufacturing and the Journal of Applied Mathematical Modelling.
Rydw i wedi bod yn adolygydd rhyngwladol ar gyfer cynigion gweithgynhyrchu ychwanegion i Sefydliad Arloesedd Canada a Chyngor Ymchwil Gwyddonol a Pheirianneg Singapore.

Meysydd Arbenigedd

  • Gweithgynhyrchu Haen Ychwanegion
  • Priodweddau Deunydd Trwybwn Uchel
  • Datblygiad Aloi Newydd
  • Aml-ffiseg gyda Dynameg Hylifol Cyfrifiannol
  • Dadansoddi Elfennau Meidraidd
  • Asesu Cylch Bywyd
  • Modelu Cyfrifiannol

Yr Athro Nick Lavery: Darlith Agoriadol, 2019

Professor Nick Lavery's Inaugural Lecture