Dr Mohammad Monfared

Dr Mohammad Monfared

Uwch-ddarlithydd, Electronic and Electrical Engineering
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Derbyniais i radd PhD (gydag anrhydedd) mewn peirianneg drydanol o Brifysgol Technoleg Amirkabir (Coleg Polytechnig Tehran) yn 2010. Ymunais i â Phrifysgol Ferdowsi ym Mashhad yn syth, lle derbyniais i Wobr yr Ymchwilydd Gorau yn 2015. Yn 2018, dechreuais i gydweithredu â SPECIFIC (Canolfan Dyfeisio Cynhyrchion Cynaliadwy ar gyfer Arloesi mewn Caenau Diwydiannol Gweithredol), sef consortiwm academaidd a diwydiannol a arweinir gan Brifysgol Abertawe sydd â'r weledigaeth o greu 'adeiladau sy'n orsafoedd pŵer'. Ers 2022, rwyf wedi bod yn uwch-ddarlithydd yn yr adran electroneg a pheirianneg drydanol, lle rydw i'n cydweithredu â chwmnïau rhyngwladol ar ymchwil sydd ag effaith fawr. Mae fy niddordebau presennol yn cynnwys rheoli a defnyddio systemau sy'n cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac electroneg bŵer yng nghyd-destun cynhyrchu gwasgaredig, micro-gridiau a systemau ynni clyfar. Mae fy ymchwil wedi arwain at lawer o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion uchel eu bri ac mae bron pob un o'm prosiectau gwaith wedi cynnwys gwirio arbrofol. Fe'm penodwyd yn Gadeirydd yr 8fed Gynhadledd Ryngwladol ar gyfer Electroneg Bŵer, Systemau a Thechnolegau Gyriant (PEDSTC 2017). 

I gydnabod fy ymdrechion a'm cyflawniadau ymchwil, cefais fy nyrchafu i statws Uwch-aelod o'r IEEE yn 2015. Rwyf yn Olygydd Cysylltiol ar gyfer IEEE Transactions on Industrial Electronics ac IEEE Transactions on Power Electronics.

Meysydd Arbenigedd

  • Electroneg bŵer
  • Systemau ynni adnewyddadwy
  • Ansawdd pŵer a hidlyddion pŵer gweithredol
  • Rheoli ynni
  • Micro-gridiau/gridiau clyfar