Dr Miguel Lurgi Rivera

Dr Miguel Lurgi Rivera

Athro Cyswllt, Biosciences

Cyfeiriad ebost

102C
Llawr Cyntaf
Adeilad Margam
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy’n ecolegydd cyfrifiadurol sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad theori ecolegol ac ar ddadansoddi setiau data mawr er mwyn cael gwell dealltwriaeth o gynulliadau cymunedol a phatrymau ecolegol gwasgariadau rhywogaethau a sut maen nhw’n rhyngweithio mewn cymunedau naturiol cymhleth.

Mae ffocws fy mhrif ddiddordeb ymchwil ar y mecanweithiau sy’n sail i’r cymhlethdod a welir mewn rhwydweithiau ecolegol a datblygiad modelau damcaniaethol o ddeinameg cymunedau a rhwydweithiau er mwyn deall yn well y mecanweithiau hyn a’r patrymau sy’n datblygu yn eu sgil.

Meysydd Arbenigedd

  • Rhwydweithiau Ecolegol
  • Ecoleg Gymunedol
  • Theori Gweoedd Bwyd
  • Biodaearyddiaeth Rhwydweithiau
  • Microbïomau
  • Ecoleg Ddamcaniaethol
  • Newid byd-eang (ymlediadau, colli cynefinoedd, cynhesu)

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Addysgu Theori Ecolegol yw un o’m hoff weithgareddau. Yn enwedig canolbwyntio ar rwydweithiau rhyngweithio ecolegol.

Ewch i’r ddolen os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu am gysyniadau ecolegol gwahanol:

https://padlet.com/miguel_lurgi/me9sk6j2firo

Rydw i wedi cynhyrchu’r tiwtorial byr hwn hefyd ar y ffordd y dylid mynd ati i ymdrin â rhwydweithiau ecolegol a’u dadansoddi:

https://mlurgi.github.io/networks_for_r/

Credaf mai’r ffordd orau o ddysgu yw drwy gymryd rhan mewn gwyddoniaeth a’i thrafod yn llawn brwdfrydedd. Felly cofiwch gysylltu neu alw heibio’r swyddfa os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bynciau diddorol am unrhyw beth dan haul fwy neu lai.

Y pynciau sydd o ddiddordeb i mi ar hyn o bryd yw: systemau cymhleth – athroniaeth gwyddoniaeth – arsylwadau ar adar prin – cilfach Hutchinson – ecoleg ddaearyddol.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau