Professor Michael McNamee

Yr Athro Michael McNamee

Athro, Sport and Exercise Sciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602118

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - A107
Llawr Cyntaf
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Mike McNamee yn Athro Moeseg Gymhwysol. Mae ganddo gefndir a chymwysterau mewn athroniaeth ac mewn gwyddorau chwaraeon. Mae wedi cyhoeddi sawl llyfr gan gynnwys Sports, Virtues and Vices (Routledge, 2008) a Sport, Medicine, Ethics (Routledge, 2016), Bioethics, Genetics, and Sport (Routledge, 2018). Ef yw Prif Olygydd y cyfnodolyn rhyngwladol “Sport, Ethics and Philosophy (2007-17), ac mae’n Gyd-olygydd cyfres llyfrau “Sport Ethics” Routledge (1998-). Mae ei waith wedi cael ei gyllido gan amrywiol gynghorau ymchwil cenedlaethol a'r Comisiwn Ewropeaidd, mewn pynciau sy'n amrywio o atal dopio; anhwylderau bwyta mewn chwaraeon; moeseg meddygaeth chwaraeon arloesol; polisi a moeseg gwella dynol. Mae'n Gyfarwyddwr Rhaglen consortiwm o chwe Phrifysgol Ewropeaidd mewn Gradd Meistr newydd wedi’i hariannu gan Erasmus+ mewn Moeseg ac Uniondeb mewn Chwaraeon www.maisi-project.eu. Mae Mike wedi gwasanaethu fel moesegydd arbenigol i nifer o sefydliadau gan gynnwys Swyddfa'r Cenhedloedd Unedig ar Gyffuriau a Throsedd, a'r Pwyllgorau Moeseg Glinigol ac Effeithiolrwydd Clinigol yng Nghymru. Mae'n aelod o Grŵp Arbenigol Moeseg yr Asiantaeth Ryngwladol i Atal Camddefnyddio Cyffuriau mewn Chwaraeon, ac mae'n Gadeirydd Pwyllgor Moeseg Annibynnol Heddlu De Cymru.

 

Meysydd Arbenigedd

  • Moeseg ac Uniondeb mewn Chwaraeon;
  • Moeseg a pholisi atal dopio
  • Moeseg Meddygaeth Chwaraeon
  • Moeseg Technoleg Chwaraeon
  • Athroniaeth Chwaraeon
  • Chwaraeon a Llywodraethiant Da

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Atal dopio
Moeseg Chwaraeon
Chwaraeon a Biofoeseg

Prif Wobrau Cydweithrediadau