Professor Moritz Kuehnel

Yr Athro Moritz Kuehnel

Athro Cyswllt Er Anrhydedd, Science and Engineering

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rydw i’n uwch ddarlithydd mewn cemeg anorganig yn Adran Gemeg Abertawe a ailagorwyd yn ddiweddar. Mae ein gwaith ymchwil yn seiliedig ar integreiddio catalyddion moleciwlaidd a biolegol gyda nanoddeunyddiau gan wneud deunyddiau hybrid gweithredol ar gyfer cynhyrchu ynni solar. Mae ein gwaith yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau’n gysylltiedig ag ynni gan gynnwys creu H2 ffoto ac electrogatalytig a gostwng CO2 gyda deunyddiau nanostrwythuredig ac ailffurfio gwastraff plastig a biomas mewn ffordd ffotogatalytig. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn cyfuno cemeg fflworin â thrawsnewid ynni solar.
Ewch i wefan ein grŵp am ragor o wybodaeth.

Meysydd Arbenigedd

  • Ffotogatalysis
  • Electrogemeg
  • Lleihau CO2
  • Esblygiad H2
  • Defyddio biomas
  • Cemeg fflworin