Mr Matthew Jones

Swyddog Ymchwil, Psychology

Cyfeiriad ebost

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Ar hyn o bryd gweithiaf fel swyddog ymchwil ar astudiaeth SAGE (Cwmpasu Hygyrchedd Gwybodaeth Hapchwarae Mwy Diogel yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig: Astudiaeth Gwerthuso Peilot). Ariannwyd yr astudiaeth gan grant a gafwyd gan yr Athro Simon Dymond, Matt Fossey, a Justyn Larcombe. Bydd yr astudiaeth yn cynnwys cynnal arolwg a chyfweld â phersonél y lluoedd arfog, eraill yr effeithiwyd arnyn nhw a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gasglu data sy'n ymwneud â gamblo ac iechyd meddwl; a gwerthuso offeryn sgrinio, ymyriad byr ac atgyfeirio ar gyfer gamblwyr problemus yn y lluoedd arfog.

Canolbwyntiodd fy ymchwil blaenorol ar broblemau iechyd meddwl cyffredin ac anhwylder defnydd opioid (OUD), gan gynnwys y defnydd o ddata arferol i astudio’r defnydd o wasanaethau iechyd gan y rhai sydd wedi eu colli i orddos opioid.