Professor Lewis Francis

Yr Athro Lewis Francis

Athro, Biomedical Sciences

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Francis yn Athro Cysylltiol yn yr Ysgol Feddygaeth, yn y Grŵp Ymchwil Bioleg Atgenhedlu ac Oncoleg Gynaecolegol, lle mae'n arwain rhaglenni ymchwil Bioffiseg ac Epigeneteg y grŵp. Mae Lewis wedi datblygu dulliau ymchwil biocemegol a bioffisegol ar gyfer ymchwilio i feinweoedd, celloedd ac ymchwil foleciwlaidd at ddiben dadansoddiad celloedd a moleciwlaidd mewn meddygaeth atgenhedlu ac aildyfu ddynol. Drwy archwilio heterogenedd cellol mewn micro-amgylcheddau meinweoedd, mae ymchwil Lewis yn ceisio nodi poblogaethau celloedd penodol ar gyfer targedu therapiwtig drwy systemau cyflwyno cyffuriau uwch. Drwy fabwysiadu modelau ffenoteip ar gyfer clefydau penodol mewn systemau sy’n defnyddio llinellau celloedd a systemau sy'n seiliedig ar gelloedd cleifion, mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar archwilio mynegiant biofarcwyr, rhwydweithiau rheoleiddio genynnau a rhyngweithiadau matricsau celloedd mewn meinweoedd penodol. Lewis hefyd yw cyfarwyddwr rhaglen ar gyfer y radd MSc mewn Nanofeddygaeth a Chyfarwyddwr ACNM yr Ysgol Feddygaeth a chyfarwyddwr prosiect CALIN.

Meysydd Arbenigedd

  • 1. Bioffiseg celloedd a moleciwlaidd
  • 2. Microsgopeg a nodweddu cydraniad uchel
  • 3. Bioleg Atgenhedlu ac Oncoleg Gynaecolegol
  • 4. Genomeg ac epigenomeg
  • 5. Bioleg glycoprotein
  • 6. Biowybodeg, dysgu peirianyddol a'r rhyngwyneb â deallusrwydd artiffisial

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Lewis yw cyfarwyddwr rhaglen ar gyfer y radd MSc mewn Nanofeddygaeth â chyfrifoldeb am fyfyrwyr MSCi Geneteg a Biocemeg. Mae'n darlithio ar amrywiaeth eang o gyrsiau israddedig (Dadansoddi Genetig, Geneteg Feddygol, Peirianneg Feddygol a Metaboledd Carbohydradau.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau