Mynedfa flaen adeilad Grove
Dr Laith Alrubaiy

Dr Laith Alrubaiy

Cadair Er Anrhydedd, Medicine Health and Life Science

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602435

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae’r Athro Laith Alrubaiy yn Gastroenterolegydd ac yn Hepatolegydd ymgynghorol. Mae’n Athro Anrhydeddus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Ar ôl ennill dwy ysgoloriaeth hynod gystadleuol i gwblhau ei astudiaethau meddygol ôl-radd ym Mhrifysgol Talaith Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau ac yna yng Ngholeg King’s, Llundain, symudodd i Gymru i ddilyn ei hyfforddiant academaidd clinigol yng Nghymru ym maes Hepatoleg, Gastroenteroleg a Meddygaeth Gyffredinol. Dyfarnwyd PhD iddo o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe am ei waith yn cymhwyso gwybodeg iechyd mewn ymchwil Gastroenteroleg a threialon clinigol. Mae’n arbenigwr ar ymchwil sy’n ymwneud â mesurau adrodd ar ddeilliannau cleifion (PROMs). Mae wedi ennill sawl gwobr genedlaethol a rhyngwladol. Yn 2017, cafodd ei enwi’n “Gastroenterolegydd Ifanc y Flwyddyn” gan Gymdeithas Gastroenteroleg Prydain yn y DU.

Yn ogystal â’i waith academaidd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, mae Dr Alrubaiy yn parhau â’i waith clinigol fel Gastroenterolegydd ac Hepatolegydd Ymgynghorol Anrhydeddus yn Ysbyty Sant Marc yn Llundain, un o’r ysbytai GI mwyaf arbenigol yn Ewrop.  

Meysydd Arbenigedd

  • Gastroenteroleg a Hepatoleg
  • Mesurau Adrodd ar Ddeilliannau Cleifion (PROMS)
  • Treialon Clinigol
  • Iechyd Byd-eang
  • Meddygaeth mewn Gwledydd Incwm Isel

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

 

  • Enwebai Gwobr Rhagoriaeth Staff: Ansawdd a Gwella. Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Prifysgol GIG Gogledd Orllewin Llundain 2022
  • Cyrraedd rownd derfynol Gwobr Dewi Sant: Llywodraeth Cymru 2019
  • Gwobr Cydnabyddiaeth Staff o fynd yr ail filltir i helpu cleifion. Ysbyty Athrofaol Cymru 2018.
  • Gastroenterolegwyr Ifanc y flwyddyn 2017 – gwobr Arweinydd Datblygol – gan Gymdeithas Gastroenteroleg Prydain http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-40462073
  • Cyrraedd rownd derfynol Gwobrau GIG Cymru 2014 “Datblygu mesurau deilliannau newydd i asesu ansawdd bywyd a difrifoldeb clefydau mewn cleifion sydd â chlefyd llid y coluddyn”

 

 

Cydweithrediadau