Dr Kevin Arbuckle

Dr Kevin Arbuckle

Athro Cyswllt, Biosciences
102A
Llawr Cyntaf
Adeilad Margam
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar y ffactorau sy’n dylanwadu ar esblygiad bioamrywiaeth. Rydw i’n defnyddio dulliau esblygol cymharol yn bennaf i ymchwilio i achosion a chanlyniadau dau fath o amrywiaeth: cyfoeth rhywogaethau ac amrywiaeth (e.e. ymddygiadol) nodweddion rhywogaethau. Y nodweddion sydd o ddiddordeb pennaf i mi yw arfogaeth wenwynig anifeiliaid fel fenwm a gwenwyn. Fel rhan o fy niddordeb mewn esblygiad amrywiaeth, rydw i’n astudio esblygiad cydgyfeiriol hefyd - ffenomen lle mae gwahanol linachau o organebau yn esblygu nodweddion tebyg. Yn benodol, mae gennyf ddiddordeb mewn dulliau o astudio cydgyfeiriant. Mae gennyf ddiddordebau ar wahân mewn datblygiadau cymhwysol a chysyniadol ym maes hwsmonaeth a llesiant anifeiliaid. Yn olaf, rydw i’n arbennig o hoff o ymlusgiaid (nadroedd yn benodol), amffibiaid, ac amrywiaeth o grwpiau di-asgwrn-cefn, diddorol (a gwenwynig yn aml iawn), ac rydw i’n ceisio canolbwyntio ar y grwpiau hyn yn fy ngwaith lle bynnag y bo modd. 

Meysydd Arbenigedd

  • Bioleg esblygiadol
  • Anifeiliaid fenymig a gwenwynig
  • Dulliau esblygol cymharol
  • Esblygiad cydgyfeiriol
  • Herpetoleg
  • Hwsmonaeth Anifeiliaid