Dr Katie Preece

Dr Katie Preece

Uwch-ddarlithydd, Geography

Cyfeiriad ebost

248A
Ail lawr
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Katie Preece yn Ddarlithydd mewn Daeareg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar fwlcanoleg a pheryglon folcanig.

Cwblhaodd Katie radd Meistr Israddedig 4 blynedd mewn Daeareg gyda Bioleg ym Mhrifysgol Keele, a Gradd Meistr mewn Fwlcanoleg yn y Laboratoire Magmas et Volcans, Clemont-Ferrend (Ffrainc). Yn 2014, cafodd ddoethuriaeth ym Mhrifysgol East Anglia, a oedd yn integreiddio data maes a phetrolegol i ddeall y grymoedd y tu ôl i drosiadau yn null echdorri diweddar llosgfynydd Merapi, Indonesia. Yna, aeth ati i ymgymryd â swyddi ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol East Anglia a SUERC (Prifysgol Glasgow).
Ymunodd Katie â Phrifysgol Abertawe fel Darlithydd ym mis Ionawr 2019.

Meysydd Arbenigedd

  • Prosesau magmatig a folcanig
  • Peryglon folcanig
  • Geocronoleg
  • Geocemeg

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Katie yn addysgu ar ystod o fodiwlau Israddedig sy'n gysylltiedig â gwyddor ddaear a daeareg. Mae'n addysgu modiwlau ar beryglon naturiol, daeareg ragarweiniol, sgiliau maes i wyddonwyr daear, gwaddodeg, ac mae'n mwynhau goruchwylio traethodau hir Israddedig a Meistr.

Ar hyn o bryd, mae Katie yn gweithio tuag at ennill Tystysgrif Addysgu Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (PGCert tHE).

Ymchwil