Dr Keith Halfacree

Dr Keith Halfacree

Darllenydd, Geography

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602502
Swyddfa Academaidd - 237
Ail lawr
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwyf wedi gweithio yn yr Adran ers 1991 ond, cyn Abertawe, bûm yn astudio tuag at BSc mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bryste a PhD ym Mhrifysgol Caerhirfryn. Bûm yn gweithio hefyd fel Ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerhirfryn.

Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar bum maes sy'n gorgyffwrdd. Yn gyntaf, rwy'n astudio mynegiant 'mewnol' yn bennaf o fudo dynol ac rwyf wedi cyhoeddi'n eang ar 'wrthdrefoli' trefol i wledig, safbwyntiau diwylliannol ar fudo a sut mae mudo'n helpu i strwythuro sefydliadau fel teulu a lle. Yn ail, rwy'n ymchwilio i ddisgwrs ar wledigrwydd, yn ardaloedd gogleddol y byd yn bennaf, gan amlinellu cynnwys ein cynrychiolaethau o wledigrwydd ac yn archwilio sut mae'r rhain yn cysylltu ag arferion megis mudo, datblygu naws am le a hamdden. Yn drydydd, gan adeiladu ar hyn, rwy'n ymgysylltu â dadleuon cysyniadol ar newid gwledig a llywio dyfodol gwledig, sy'n bynciau 'byw' iawn yn y cyfnod hwn ar ôl Brexit / Covid. Yn bedwerydd, mae gennyf ddiddordeb cynyddol yn y ffordd nad yw lleoedd gwledig yn cael eu cynhyrchu gan bobl yn unig ond hefyd yn dwyn argraffiadau grymoedd eraill, yn fyw ac yn anfyw. Yn y cyd-destun hwn, rwy'n datblygu ymchwil gyda chydweithiwr ar i ba raddau mae ein hucheldiroedd yn cael eu cyd-gynhyrchu gan ddefaid. Yn olaf, a chan bwyso’n drwm ar ddiddordebau personol, rwy'n mwynhau addysgu ac ymchwilio i 'ddaearyddiaethau ymylol' neu ddaearyddiaethau’r cyrion, mynegiant daearyddol pob dim ‘gwrthddiwylliannol' a materion daearyddol sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth Americana a cherddoriaeth werin.

Meysydd Arbenigedd

  • Ardaloedd gwledig yn ardaloedd gogleddol y byd
  • Gwrthdrefoli a newid poblogaeth wledig
  • Diffinio a deall gwledigrwydd
  • Gwledigrwydd radical
  • Mannau gwrthddiwylliannol
  • Mudo mewnol
  • Gofodau natur
  • Cerddoriaeth Americana

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Daearyddiaeth Wledig
Daearyddiaethau ymylol
Cynaliadwyedd
Daearyddiaeth Ddiwylliannol
Poblogaethau yn Mudo
Daearyddiaeth Poblogaeth

Ymchwil