Professor Jeffrey Stephens

Yr Athro Jeffrey Stephens

Cadair Bersonol, Biomedical Sciences

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
111
Llawr Gwaelod
Adeilad Grove
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Cymhwysodd yr Athro Jeff Stephens (BSc, MB BS, PhD, FRCP, FAcadMEd, FHEA) mewn Meddygaeth o'r Coleg Imperial, Llundain ym 1994. Cwblhaodd hyfforddiant arbenigol mewn Diabetes, Endocrinoleg a Meddygaeth Fewnol Gyffredinol ledled Canol Llundain. Rhwng 2001-2004 cwblhaodd PhD mewn Geneteg yn y Ganolfan Geneteg Cardiofasgwlaidd yng Ngholeg Prifysgol Llundain, a gefnogwyd gan Gymrodoriaeth Hyfforddiant Clinigol Diabetes UK. Dychwelodd i Gymru yn 2005 ar ôl cael ei benodi'n Uwch-ddarlithydd Clinigol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd mae'n Athro Clinigol Diabetes ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Feddyg Ymgynghorol mewn Diabetes, Endocrinoleg a Meddygaeth Fewnol Gyffredinol yn Ysbyty Treforys, Abertawe. Mae'n weithgar ym meysydd addysgu ac ymchwil, ac mae'n parhau i fod yn ymarferydd meddygol mewn diabetes, endocrinoleg a meddygaeth gyffredinol. Mae wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ar gyfer Addysg Feddygol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Deon Cyswllt ar gyfer Gyrfaoedd Academaidd yn Neoniaeth Cymru. Hefyd, roedd yn aelod o Bwyllgor Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol Diabetes UK ac yn Gadeirydd Pwyllgor Trefnu Cynhadledd Broffesiynol Diabetes UK ar gyfer 2020 a 2021. Mae ganddo dros 190 o gyhoeddiadau sydd wedi'u hadolygu gan gymheiriaid.

Meysydd Arbenigedd

  • Diabetes mellitus
  • Gordewdra
  • Geneteg
  • Llid
  • Straen ocsideiddiol
  • Treialon clinigol
  • Meddygaeth Glinigol
  • Endocrinoleg

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae'r Athro Stephens yn arweinydd modiwl ar gyfer MSc Ymarfer Diabetes yn Abertawe. Mae'n cyfrannu at addysgu'r cwrs Meddygaeth i Raddedigion a'r cwrs Cydymaith Meddygol hefyd, ac mae'n goruchwylio prosiectau BSc ac MSc.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau