Professor John Tucker

Yr Athro John Tucker

Athro, Computer Science

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295649

Cyfeiriad ebost

332
Trydydd Llawr
Y Ffowndri Gyfrifiadol
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae'r Athro Tucker yn gyfrifiadurwr y mae ei ymchwil yn mynd i'r afael â'r hyn y gall pobl a pheiriannau ei gyfrifiannu a'r hyn na ellir ei gyfrifiannu.

Mae hefyd yn astudio datblygiad hanesyddol data a chyfrifiadura a'u dylanwad ar gymdeithas. Sefydlodd Gasgliad Hanes Cyfrifiadura y Brifysgol a grŵp ymchwil newydd yn Abertawe o'r enw Educational, Historical and Philosophical Foundations of Computing.

Mae'r Athro Tucker hefyd yn arbenigwr ar hanes a threftadaeth gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru.

Ers dod i Abertawe yn 1989, mae wedi gwasanaethu fel Pennaeth yr Adran Gyfrifiadureg (1994-2008), Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Ffisegol (2007-11), ac Is Ddirprwy Is-Ganghellor (2011-19).

Meysydd Arbenigedd

  • Damcaniaeth data a mathau o ddata
  • Dulliau algebraidd ar gyfer modelu a manylebu
  • Damcaniaeth cyfrifadwyedd
  • Sylfeini ffisegol ar gyfer cyfrifiannu
  • Hunaniaeth, monitro a gwyliadwriaeth
  • Hanes cyfrifiadura
  • Hanes gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghym

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae'r Athro Tucker wedi darlithio ar gyfrifiadureg ddamcaniaethol i bob math o bobl ar bob math o lefelau.

Mae'n mwynhau darlithio a goruchwylio prosiectau sy'n archwilio

(i) datblygiad hanesyddol cyfrifiadura, gan gyfuno gyrwyr a dylanwadau technegol, masnachol, gwleidyddol a chymdeithasol; a
(ii) hanes gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau