Professor Jiang-lun Wu

Yr Athro Jiang-lun Wu

Athro Emeritws (Gwyddoniaeth), Science and Engineering

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy'n athro mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe.

Fy mhrif faes diddordeb yw damcaniaeth tebygolrwydd a dadansoddiad stocastig, gan ganolbwyntio ar ddadansoddi hafaliadau differol rhannol stocastig sy'n deillio o ffiseg fathemategol ac ystadegol. Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn modelu ac efelychiadau o brosesau stocastig sy'n gysylltiedig â dadansoddi data mewn economeg a chyllid, yn ogystal ag mewn bioleg.

Rwy'n aelod o’r London Mathematical Society ac yn adolygydd rheolaidd ar gyfer Mathematical Reviews, American Mathematical Society.

Meysydd Arbenigedd

  • dadansoddi stocastig
  • prosesau a modelu stocastig
  • damcaniaeth tebygolrwydd ac ystadegau mathemategol
  • dadansoddi ffwythiannol a dadansoddi dimensiynol-anfeidraidd
  • hafaliadau differol rhannol
  • ffiseg fathemategol a mecaneg ystadegol
  • dadansoddi ansafonol