ILS1
Dr Josie Parker

Dr Josie Parker

Penodiad Er Anrhydedd (Gwyddorau Dynol ac Iechyd), Medicine Health and Life Science

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Josie Parker yn Uwch-swyddog ymchwil yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ensymau sytocrom P450 ac ymwrthedd gwrthffyngol.

Ymunodd Josie â Phrifysgol Abertawe fel Ymchwilydd yn 2005. Enillodd BSc (Anrh) mewn Geneteg yn 2010 a dyfarnwyd PhD iddi am ‘An Investigation of the Role of Cytochromes P450 in Mycobacteria’ yn 2006 gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth.

Meysydd Arbenigedd

  • Ensymau sytocrom P450
  • Ymwrthedd gwrthffyngol
  • Dadansoddi sterolau (GC-MS)
  • Bioleg foleciwlaidd
  • Mynegi proteinau mewn modd heterologaidd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Josie yn un o Gymrodorion yr Academi Addysg Uwch ac yn Llysgennad STEM. Mae hi'n addysgu ar raglenni geneteg a biocemeg ar lefelau BSc a Meistr.  

Mae gweithgareddau addysgu Josie yn canolbwyntio ar feysydd microbioleg, mecanweithiau ymwrthedd i gyffuriau gwrthficrobaidd, biocemeg sytocrom P450, ffarmacogenomeg a sgiliau labordy biofeddygol.  

Mae Josie yn goruchwylio prosiectau israddedig mewn Microbioleg a Biotechnoleg, yn ogystal â lleoliadau profiad gwaith ac ysgoloriaethau ymchwil haf mewn labordai. 

Ymchwil Cydweithrediadau