Miss Rebecca Schlegel

Cyswllt Ymchwil Er Anrhydedd, Science and Engineering
229E
Ail lawr
Adeilad Wallace
Campws Singleton

Trosolwg

Rhewlifegydd a geoffisegydd ydw i sy'n gweithio fel Cymrawd Ymchwil IMPACT yn yr adran ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gennyf PhD mewn Daearyddiaeth Ffisegol (Prifysgol Abertawe, 2022), MSc mewn Gwyddor Daear (Prifysgol Bremen, 2017) a BSc yn y Gwyddorau Daear (Prifysgol Goethe Frankfurt, 2014).

Mae fy ymchwil bresennol yn canolbwyntio ar briodweddau gwelyau a thopograffi o dan ffrydiau iâ a'r ffordd y maent yn cydweithredu â dynameg iâ. Rwy'n defnyddio technegau geoffisegol gwahanol, ond yn canolbwyntio'n bennaf ar radar a seismig i fapio ffurfiau gwely tanrewlifol o dan ffrydiau iâ modern yng Ngorllewin Antarctica. Rwy'n ceisio deall y prosesau a'r amodau lle mae ffurfiau gwely tanrewlifol yn ffurfio a sut y gallwn ddefnyddio'r wybodaeth hon i fwydo modelau rhifiadol o ddeinameg iâ yn well.

Meysydd Arbenigedd

  • Geoffiseg gymhwysol
  • Geoffiseg Arwyneb Agos
  • Geomorffoleg
  • Ffurfiau gwely Tanrewlifol
  • Radar treiddio i'r ddaear
  • Seismeg adlewyrchiad a phlygiant
  • Gwaith maes yn Antarctica a'r Alpau Ewropeaidd
  • Cyfathrebu Gwyddoniaeth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae fy thesis PhD a'm gwaith presennol yn canolbwyntio ar ffurfiau gwely tanrewlifol (nodweddion topograffig sy'n ffurfio yn y gwely o dan iâ sy'n llifo). Mae ffurfiau gwely megis graeanfryniau a llinelliadau rhewlifol ar mega-raddfa i'w cael o dan ffrydiau iâ sy'n llifo'n gyflym, a gwyddys eu bod yn effeithio ar lif yr iâ a'i gofnodi, gan ddarparu mewnwelediad i’r berthynas dynameg iâ a'r amgylchedd tanrewlifol.

Er mwyn deall yr amodau a'r prosesau y mae'r ffurfiau gwely hyn yn esblygu oddi tanynt, rwy'n canolbwyntio ar ail-greu topograffi eglur iawn a gwybodaeth am briodweddau ffurfiau gwely o dan Ffrwd Iâ Rutford yng Ngorllewin Antarctica. I gyflawni hyn, rwy'n caffael data radar wedi'i ofodi’n ddwys sydd wedyn yn cael ei brosesu ar ffurf 3D (yn cynnwys mudo). Mae hyn yn arwain at ddelweddau eglur iawn o dopograffi'r gwely. Er mwyn tynnu sylw at nodweddion ar raddfa fach a materion cymhleth, rwy’n cyfrifo mesurau gwahanol ymhellach (a elwir yn briodoleddau) y gwely, megis y golethrau a chrymedd y topograffi.
Gan ddefnyddio'r wybodaeth a dderbyniaf o ddadansoddi priodweddau’r gwely (gwely meddal neu galed) yn ogystal â'r topograffi manwl, rwy'n ail-greu prosesau ac amodau ffurfio’r gwely. Rwy'n cymharu'r arsylwadau hyn o Ffrwd Iâ Rutford ymhellach â damcaniaethau presennol am eu ffurfiant.

Gan fod bwlch rhwng damcaniaeth ac arsylwadau, yn enwedig o ran ffurfiau gweld tanrewlifol, dechreuais i weithio gyda modelau rhifiadol (iâ Elmer) yn ddiweddar, i weld a all amodau a phrosesau a nodwyd gan ddefnyddio'r data geoffisegol gychwyn ffurfiau gwely.

Prif Wobrau Cydweithrediadau