Professor Simon Haslett

Yr Athro Simon Haslett

Athro Er Anrhydedd, Science and Engineering

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae'r Athro Haslett yn Athro er Anrhydedd yn Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe a chyn hynny ymgymerodd â gwaith ymchwil yng Ngholeg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen, yn rhan o Gymrodoriaeth Ymweld Tymor-Byr. Ef yw Dirprwy Is-Ganghellor blaenorol Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; mae wedi gweithio ym maes addysg uwch ers dros 30 o flynyddoedd, gynt ym Mhrifysgol East Anglia, Prifysgol Durham a Phrifysgol Caerfaddon, lle roedd yn Bennaeth yr Adran Ddaearyddiaeth. Enillodd ysgoloriaeth Fulbright hefyd, gan dreulio'r cyfnod yn Scripps Institution of Oceanography ym Mhrifysgol Califfornia, San Diego.

Enillodd yr Athro Haslett BSc (Anrh) mewn Daearyddiaeth a Daeareg o Brifysgol Keele, MSc mewn Micropaleontoleg o Brifysgol Southampton a PhD mewn Paleocefnforeg Gwaternaidd o Brifysgol Morgannwg, sydd erbyn hyn yn rhan o Brifysgol De Cymru.

Meysydd Arbenigedd

  • Daearyddiaeth Ffisegol
  • Esblygiad Arfordirol a Geomorffoleg
  • Newid i Lefel y Môr a Pheryglon Arfordirol
  • Micropaleontoleg
  • Paleocefnforeg
  • Cysylltiadau rhwng Ymchwil ac Addysgu
  • Newid yn yr Hinsawdd ac

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Dechreuodd yr Athro Haslett ddysgu daearyddiaeth ffisegol ddechrau'r 1990au, gan arbenigo ar geomorffoleg arfordirol, micropaleontoleg gwaternaidd a newid yn yr hinsawdd. Ef yw awdur y llyfr testun poblogaidd Coastal Systems, y mae'r 3ydd argraffiad allan ar hyn o bryd, a argraffwyd gan Wasg Prifysgol Cymru, ac roedd yn olygydd Quaternary Environmental Micropalaeontology a gyhoeddwyd gan Arnold. Mae e hefyd wedi ymrwymo i gyfathrebu gwyddoniaeth a gwaith allgymorth, gan gynnal nifer o ddarlithoedd cyhoeddus a gwneud rhaglenni dogfen i'r teledu ar gyfer y BBC. Mae'r Athro Haslett hefyd wedi goruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig ym meysydd esblygiad arfordirol ac addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy. Mae e hefyd yn angerddol am ymchwil israddedig ac mae'n gyd-sylfaenydd Cynhadledd Ymchwil Israddedig Prydain, a gynhelir yn flynyddol. Roedd e hefyd yn arloesi wrth ddefnyddio Google Earth wrth addysgu daearyddiaeth.

Ymchwil Prif Wobrau